fishing river irfon

Pysgota Canghennau Glas yng Nghymru yn yr hydref: Pleser y Tymor

Wrth i’r hydref afael yng nghefn gwlad Cymru, mae pysgotwyr o bob cwr o’r wlad yn aros yn eiddgar am un o brofiadau pysgota mwyaf boddhaol a heriol y flwyddyn: pysgota canghennau glas yn yr hydref. Mae’r oerfel o’ch cwmpas, y dail lliwgar, a’r afonydd symudliw yn gwneud Cymru yn lleoliad delfrydol i bysgotwyr sydd am brofi eu sgiliau yn erbyn y canghennau glas sy’n anodd eu dal.

Yn yr erthygl hon byddwn yn archwilio swyn unigryw pysgota canghennau glas yng Nghymru yn ystod yr hydref ac yn rhoi cyngor a gwybodaeth i’ch helpu chi i wneud y gorau o’r tymor eithriadol hwn.

river rhymney grayling fishing

Y Gangen Las Enigmatig

Math o bysgodyn sy’n ffynnu mewn afonydd a nentydd glân sy’n llifo’n gyflym yw’r gangen las (Thymallus thymallus). Mae’n enwog am ei hasgell ddorsal drawiadol wedi’i haddurno ag arlliwiau byw oren a choch, gyda chennau sy’n ymdebygu i liw perl mewn arlliwiau arian a llwyd piwter. Mae canghennau glas, a elwir yn ‘fonesig y nant’ yn sensitif i ansawdd dŵr ac yn aml yn cael eu hystyried yn ddangosydd cryf o ecosystem ddyfrol iach; mae’r ffaith eu bod i’w cael mewn cymaint o afonydd yng Nghymru yn arwydd cadarnhaol iawn.

Pam yr hydref?

Yr hydref a dechrau’r gaeaf yw’r amser gorau ar gyfer pysgota canghennau glas yng Nghymru. Mae’r tymheredd yn dechrau gostwng, sy’n arwain at amodau dŵr oerach y mae canghennau glas yn eu ffafrio, sy’n eu hysgogi i fwydo mwy. Mae’r gangen las yn rhywogaeth dŵr oer heb os, a byddwch yn cael hwyl ar y pysgota gwych hyd yn oed ar ddyddiau lle mae’r tymheredd o dan sero, ond gall y gweithgarwch gael ei gyfyngu i ychydig o oriau byr ganol gaeaf. Ym mis Hydref a mis Tachwedd, gyda mwy o olau dydd a ‘thywydd pysgota’ gwell yn aml, gallwch ddisgwyl dal canghennau glas drwy’r dydd, a pheidio teimlo eich bod chi angen dadrewi ar ôl hanner awr yn y dŵr.

Grayling fishing in Wales

Ble i Bysgota

Mae gan Gymru amryw o afonydd a nentydd sy’n enwog am eu poblogaethau o ganghennau glas. Dyma rai o’r lleoliadau gorau i bysgota am ganghennau glas yn yr hydref:

Afon Gwy: Mae Afon Gwy uchaf yn enwog am ei phoblogaeth doreithiog o ganghennau glas. Mae’r ardal hardd a’r dyfroedd clir yn ei gwneud yn ddewis rhagorol ar gyfer y rhai sy’n mwynhau pysgota plu ac i bysgotwyr sy’n mwynhau trotian. Mae canghennau glas i’w cael yn Afon Gwy o Langurig yr holl ffordd i Fynwy, ond yr ardal orau i ddod o hyd iddynt yw rhwng Rhaeadr a’r Gelli Gandryll, gydag ardal Llanfair-ym-Muallt yn lleoliad da i ddechrau archwilio. Mae dŵr pysgota ar gael gyda chlybiau pysgota lleol ac ar y cynllun Pasbort Pysgota.

Afon Irfon: Mae Cwm Irfon yn y Canolbarth, cwm sydd heb ei ddifetha fawr o gwbl, yn cynnig cyfleoedd pysgota rhagorol ar gyfer canghennau glas. Mae afon Irfon yn un o is-afonydd afon Gwy ac mae’n cynnwys rhediadau cyflym, sianeli creigwely a phyllau dwfn sy’n berffaith i bysgotwyr yn chwilio am her. Mae afon Irfon yn cynnwys rhai o’r canghennau glas mwyaf yng Nghymru, gyda physgod rhwng 2 bwys a 3 phwys yn cael eu dal yn rheolaidd. Mae’r rhan fwyaf o’r afon ar gael ar gyfer pysgota gyda’r Pasbort Pysgota, clybiau lleol neu drwy berchnogion preifat fel Gwesty Cammarch.

Afon Dyfrdwy: Yn y Gogledd, mae Afon Dyfrdwy yn cynnig profiad pysgota canghennau glas unigryw. Mae’r afon fawr hon yn enwog am ei changhennau glas cryf a niferus, ac mae’r golygfeydd trawiadol yn ychwanegu at yr apêl gyffredinol. Cynhelir yr ŵyl canghennau glas Hanak flynyddol ar yr afon yn ardal Llangollen am reswm da – mae yna lawer iawn o ganghennau glas i’w dal a llawer ohonynt yn 50cm a mwy. Mae mynediad tocyn dydd ar gael yn hawdd gan sawl clwb pysgota, fel Clwb Corwen a chlwb y Bala a’r Ardal.

Hafren Uchaf: Mae Afon Hafren, un o brif afonydd y DU, yn dechrau yng Nghymru ac yn cynnig cyfleoedd pysgota rhagorol ar gyfer canghennau glas. Mae ei hadrannau troellog, rhediadau graean graddol a phyllau yn darparu cynefin delfrydol i ganghennau glas. Gall pysgota yn nyffryn uchaf yr Hafren a’i olygfeydd godidog fod yn brofiad cofiadwy yn yr hydref, gyda chlybiau pysgota’n darparu mynediad o amgylch Llanidloes a Chaersŵs. Mae yna adrannau am ddim hyd yn oed i ddeiliaid trwydded gwialen yn Llanidloes a’r Drenewydd.

Afon Rhymni: Mae Afon Rhymni, sydd wedi’i lleoli yn y de-ddwyrain, yn berl gudd ar gyfer pysgota canghennau glas. Mae’n adnabyddus am fod yn afon ôl-ddiwydiannol ond eto mae’n cynnig lleoliad rhyfeddol o heddychlon i bysgotwyr bysgota am ganghennau glas. Mae adrannau amrywiol yr afon, o’r ardaloedd trefol gyda rhediadau cyflym i byllau dwfn mewn coetiroedd a chaeau amaethyddol, yn darparu ar gyfer gwahanol dechnegau pysgota, sy’n eu gwneud yn addas i bysgotwyr o bob lefel o sgiliau. Gellir cael mynediad i’r rhan fwyaf o gyfleoedd pysgota trwy Gymdeithas Pysgota Caerffili neu Glwb Pysgota’r Royal Oak.

Afon Taf: Mae Afon Taf, sy’n llifo o Ferthyr Tudful i Gaerdydd yn lleoliad gwych arall i bysgota am ganghennau glas. Mae’r afon yn adnabyddus am ei phoblogaeth ffyniannus o ganghennau glas o Abercynon i lawr i’r Brifddinas. Mae ei hansawdd dŵr gwell a’i rhannau amrywiol yn darparu ar gyfer pysgotwyr plu a throtian, gyda physgota abwyd yn cael ei ganiatáu ar Bysgotwyr Morgannwg, gyda’r plu yn ddull a ganiateir ar Bysgotwyr Plu y Gweilch.

Tactegau a Gêr

Pysgota Plu: Ddechrau’r hydref, mae canghennau glas yn aml yn bwydo ar bryfaid a nymffau a ddaw i’r golwg, sy’n gwneud pysgota plu yn ddewis poblogaidd. Mae patrymau fel y Nymff Cynffon Ffesant, y Berdysen Binc, Tag Coch a Nymff Clust Sgwarnog yn ddewisiadau effeithiol, yn enwedig o roi pwysau trwm arnynt gyda glain twngsten. Mae mynd i lawr i’r parth bwydo yn gallu bod yn hanfodol. Gwialen blu pwysau ysgafn i ganolig (3-5 o bwysau) sy’n cael ei hargymell, gyda’r dewis mwyaf poblogaidd efallai yn 10’ #3, sy’n berffaith ar gyfer ‘Euronymphing’.

grayling fishing flies

Pysgota Bras: Os yw’n well gennych chi bysgota ag abwyd, mae mwydod a chynrhon bach yn llwyddiannus iawn, wrth bysgota gyda gwialen arnofio ysgafn (12 i 14 troedfedd, gyda rîl 2000 i 3000 rîl) a throtian i lawr yr afon. I gael rhagor o wybodaeth am ‘drotian’ darllenwch ein herthygl yma. Wrth bysgota ag abwyd cofiwch wirio rheolau a rheoliadau’r lleoliad bob amser, gan fod is-ddeddfau neu’r clwb sy’n rheoli’r dŵr yn gallu gwahardd.

Gofalu am bysgod

Mae’r gangen las yn rhywogaeth fregus ac yn methu goddef gofal gwael. Er mwyn sicrhau bod y profiad pysgota unigryw hwn yn cael ei ddiogelu a’i gynnal mae’n hanfodol gafael yn y pysgod cyn lleied â phosibl, yn enwedig mewn tywydd cynhesach. Defnyddiwch fachau heb adfachau a gafael yn y pysgod hardd hyn â pharch, gan eu cadw mor wlyb â phosibl.

Mae pysgota am ganghennau glas yn yr hydref yng Nghymru yn cynnig cyfle i bysgotwyr gysylltu â natur, mwynhau tirweddau trawiadol yr hydref, a herio eu sgiliau yn erbyn rhywogaeth gyfareddol sy’n anodd i’w dal. Waeth ydych yn ffafrio pysgota plu neu bysgota bras, mae afonydd Cymru’n darparu digon o gyfleoedd am brofiad pysgota bythgofiadwy.

Cylchlythyr

Blog
beginners guide to lure fishing

Byd rhyfeddol pysgota ag abwyd ffug neu lith! Canllaw i ddechreuwyr

Yn y canllaw pysgota hwn, mae’r awdur, y cyflwynydd teledu a’r archwilydd Will Millard yn cymryd golwg ar bysgota â…

Darllen mwy
Blog

Manteision Pysgota i Iechyd Meddwl a Llesiant Corfforol

Mae pysgota’n weithgaredd hamdden sydd wedi’i fwynhau gan bobl ym mhob cwr o’r byd ers canrifoedd. Nid yn unig mae’n…

Darllen mwy
Newyddion

Hywel y pysgotwr enwog yn dweud y dylai GIG Cymru annog pobl i wirioni ar bysgota yn lle rhoi tabledi ar bresgripsiwn

Dylai meddygon yng Nghymru allu rhoi genweirio ar bresgripsiwn yn lle cyffuriau gwrth-iselder, yn ôl un o bysgotwyr gorau’r DU.

Darllen mwy