grayling wales

Pysgota am y gangen las yng Nghymru

Gair gan: Louis Noble

Os oes unrhyw un pysgodyn sy’n nodweddiadol o’r pysgota penigamp sydd gan Gymru i’w gynnig, yna, o’m safbwynt i, rhaid mai’r gangen las yw’r pysgodyn hwnnw. Er mai pysgodyn bras ydyw yn dechnegol, mae wedi’i ddosbarthu’n ‘bedwerydd pysgodyn hela’ yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, a hynny’n rhannol oherwydd yr asgell fras sy’n gyffredin rhyngddo ag eogiaid a brithyllod, ond hefyd oherwydd ei briodweddau gwych o ran yr hwyl o’i ddal. Un o’i briodoleddau gorau yw’r cyfle a geir i’w ddal drwy gydol y flwyddyn bron, a’r hydref a’r gaeaf yw’r prif adegau ar gyfer gwneud hynny. Yr adeg honno bydd pysgod yn ffurfio heigiau wrth i’r tymheredd ostwng, a gellir dal cryn dipyn o bysgod o ganlyniad.

Mae niferoedd y gangen las wedi bod yn cynyddu’n raddol bob blwyddyn yn afonydd Cymru, sy’n dangos bod ansawdd y dŵr yn rhagorol oherwydd nad yw’n gallu goddef hyd yn oed lefelau isel iawn o lygredd. Mae’r boblogaeth iach o infertebratau yn ffactor arall o ran dwysedd a maint – nid yw canghennau glas o dri phwys neu fwy yn anghyffredin yng Nghymru, a cheir cyfartaledd iach o oddeutu un pwys. Caiff sbesimen o bedwar pwys ei ddal yn ystod y rhan fwyaf o dymhorau, sy’n rhagorol.

Grayling fishing in Wales

Ble i bysgota am y gangen las yng Nghymru

Mae llawer o afonydd a nentydd yng Nghymru yn cynnig pysgota o’r radd flaenaf am y gangen las, ond ceir rhai nodedig, penodol yn eu plith. Yn y gogledd, ceir afon Dyfrdwy, y cafodd ei dosbarthu’n un o afonydd gorau Ewrop ar gyfer pysgota am y gangen las yn dilyn Pencampwriaeth Genweirio’r Byd yn hwyr yn y 1980au. Cynhelir Gŵyl Cangen Las Ewrop Hanak bob mis Rhagfyr, a, dros ddau ddiwrnod yn unig, bydd 21 tîm o dri genweiriwr o bob cwr o’r byd yn disgwyl dal a dychwelyd hyd at 1,300 o ganghennau glas, sy’n arwydd o’r boblogaeth sylweddol.

Heb os nac oni bai, mae afon Dyfrdwy’n wych, yn codi yn y mynyddoedd uwchben y Bala ac yn llifo trwy Lyn Tegid cyn tyfu’n ddigon mawr i’w physgota islaw’r dref. Yn ddiamau, mae hon yn gartref i ganghennau glas mawr iawn! Mae wedyn yn ystumio’i ffordd trwy ardaloedd o harddwch eithriadol ac o bysgota sylweddol, gan lifo heibio Llandderfel, Corwen, Carrog, Llangollen, Trefor, Erbistog a Bangor Is-coed, lle ceir amrywiaeth ddiddiwedd o ddŵr ffrydiol eithaf bas. Mae pysgota drwy docyn diwrnod ar gael ym mhob un o’r lleoedd hyn. I lawr yr afon o Lyndyfrdwy, mae gwely’r afon yn dod yn fwyfwy caregog, felly byddwch yn ofalus wrth gerdded trwy’r dŵr – cynghorir i chi ddefnyddio ffon gerdded.

river rhymney grayling fishing

Mae Llyn Tegid ei hun yn cynnig cyfle unigryw i ddal y gangen las mewn dŵr llonydd – mae’n ddigon posibl mai dyma’r unig lyn yn y DU lle mae poblogaeth o’r gangen las wedi’i sefydlu’n dda. Mae’n well gan y pysgod ddŵr mwy bas, felly nid yw hi mor anodd eu dal ag y byddech chi’n ei ddisgwyl o bosib. Byddai’r cyfnod rhwng mis Ionawr a mis Mawrth yn adeg dda i roi cynnig arni.

Mae afon Gwy nerthol, yng Nghanolbarth Cymru, yr un mor arwyddocaol, a cheir peth o’r pysgota â phlu gorau o blith unrhyw afon arall. Mae pysgota am y gangen las ar lefel gynhyrchiol yn dechrau yn Llangurig, gan wella wrth i’r afon lifo tuag at Raeadr Gwy a thyfu mewn pwysigrwydd heibio Llanfair-ym-Muallt hyd nes y Gelli Gandryll. Unwaith eto, bydd angen i chi fod yn ofalus wrth gerdded trwy’r dŵr oherwydd cryfder y cerrynt a gwely creigiog yr afon. Yn fy marn i, ceir rhai o’r pysgodfeydd gorau i lawr yr afon o Raeadr Gwy a Llanfair-ym-Muallt, ac mae Erwyd yn arbennig o dda – ceir mynediad iddynt i gyd drwy basbort pysgota Sefydliad Gwy ac Wysg. Dan amodau ffafriol yn ystod yr hydref, rwy’n ymwybodol o ddalfeydd o hyd at hanner cant o ganghennau glas o afon Gwy, sy’n eithriadol ar unrhyw lefel. Mae’r afon gyffrous a heriol hon yn addas ar gyfer pob techneg. Ceir nifer arbennig o dda o bryfed, sy’n amlwg yn cyfrannu tuag at ddwysedd ac ansawdd y pysgod.

Mae’r gangen las i’w chael ym mhrif isafonydd afon Gwy, ac maent yn bysgodfeydd pwysig yn eu rhinwedd eu hunain o ran y pysgodyn hwn. Mae afon Elan ac afon Ieithon yn afonydd rhagorol o ran y gangen las, ond bur debyg mai afon Irfon, sy’n ymuno ag afon Gwy ger Llanfair-ym-Muallt, yw’r un bwysicaf. Yn hardd ac agos atoch, mae’r afon hon yn 30 milltir o hyd, ond y milltiroedd is ohoni a’i milltiroedd canol sydd o ddiddordeb arbennig o ran pysgota am y gangen las. Gall treulio diwrnod yn pysgota â phluen sych arni ym mis Hydref fod yn agoriad llygad, er ei bod yn addas ar gyfer pob math o ddulliau. Ceir canlyniadau rhagorol yn ystod misoedd y gaeaf ac amodau llif uwch o gyflwyno’r abwyd ar wely’r afon ar gyflymder llif y cerrynt, sef y dull a elwir yn long trotting. Gellir talu am docyn diwrnod i gael mynediad at sawl pysgodfa wych, ac maent wirioneddol yn drysorau ymhlith pysgodfeydd y gangen las yng Nghymru.

Mae afon Hafren yn afon arall sy’n bwysig iawn o safbwynt y gangen las ac a all gynnig pysgota o’r radd flaenaf. Ar ôl codi ym mryniau Pumlumon ochr yn ochr ag afon Gwy, mae’n llifo’n gyflym nes ei bod yn cyrraedd Llanidloes, lle mae afon Clywedog yn ymuno â hi. Gellir dechrau pysgota o ddifrif am y gangen las yma, ac wrth iddi gyrraedd Caersws mae’n troi ac yn troelli trwy wastadeddau llyfn, gan lifo trwy Landinam, y Drenewydd ac Aber-miwl, lle ceir pysgota gwych ym mhobman ar hyd y rhediadau ysgubol hir sydd wedi’u britho â phyllau. Mae tocynnau diwrnod ar gael ym mhob un o’r lleoedd hyn, ac mae hyd yn oed yn bosibl pysgota’n rhad ac am ddim ychydig i lawr yr afon o’r Drenewydd. Mae coed yn tyfu ar hyd llawer o lannau afon Hafren, felly mae angen cerdded trwy’r dŵr yn aml. Un o’r manteision yw mai gwely o raean sydd gan yr afon yn gyffredinol, ac felly mae’n hawdd iawn ei physgota.

river severn trout fishing

Ni allwn adael afon Hafren heb sôn am afon Efyrnwy, sef ei hisafon bwysicaf. Uwchlaw Meifod, ceir sawl milltir o bysgota o safon gyda phoblogaeth dda o’r gangen las a golygfeydd godidog. Dim ond trwy ymaelodi â chlwb y gellir cael mynediad mewn rhai mannau, ond mae nifer o ffermydd yn cynnig tocynnau diwrnod sy’n werth eithriadol o dda am arian.

Ceir cyfoeth o bysgodfeydd sy’n eithriadol o ran y gangen las yn Ne Cymru hefyd. Mae afonydd Cymoedd y De, sydd wedi’u hadfer yn llwyr, bellach yn cynnwys stociau mawr o ganghennau glas o hyd at dri phwys. Mae afon Taf yn enghraifft berffaith, ac mae’r gangen las i’w chael o Fae Caerdydd i Abercynon, gyda’r afon yn llifo trwy gymysgedd o leoliadau gwledig a threfol. Ceir yma bysgota heb ei ail y’i hargymhellir yn gryf – mae poblogaeth anferth o ganghennau glas yn afon Taf, a chaiff pysgod o ddau bwys a mwy eu dal yn rheolaidd. Mae sawl clwb yn cynnig tocynnau diwrnod heb fod yn ddrud, gan gynnwys Cymdeithas Pysgotwyr Plu’r Gweilch ym Mhontypridd a Chlwb Genweirwyr Morgannwg yng Nghaerdydd.

Afon Rhymni gyfagos yw’r afon sylweddol arall o ran y gangen las, a cheir pysgota o safon o’r A48 yn Llaneirwg yr holl ffordd trwy Gaerffili ac yna ychydig y tu hwnt i Lanbradach. Mae tocynnau diwrnod rhad ar gael ym mhob ardal, ac mae siop Tony’s Tackle yng Nghaerffili yn lle gwych i’w prynu. Gyda choed yn tyfu ar hyd y rhan fwyaf o’i glannau, mae hon yn afon ddeniadol iawn sy’n wirioneddol werth chweil ymweld â hi. Mae poblogaeth doreithiog o ganghennau glas yn aros amdanoch, a cheir haig fawr iawn ym mron pob un o’r pyllau. Nid yw’n anghyffredin dal 20 i 30 o ganghennau glas yma ar brynhawn gaeaf, ac mae dalfeydd yn cynnwys pysgod sy’n pwyso tua 12 owns ar gyfartaledd, a llawer o bysgod o ddau bwys a mwy.

River Rhymney grayling

Yn olaf, dylem sôn am afon Ewenni, sef un o isafonydd afon Ogwr, lle ceir cyfle rhagorol i bysgota am y gangen las ar rannau uwch yr afon drwy docyn diwrnod. Yn llifo trwy dir ffrwythlon Bro Morgannwg, mae ei dŵr cyn claeared â jin a’i rafftiau o chwyn Ranunculus yn ei gwneud yn debyg i nant galch.

Mae dal a rhyddhau’r gangen las yn arferol bellach yn afonydd Cymru, ac rwy’n annog pob genweirwr sy’n ymweld â’r wlad hon i wneud yr un peth – mae angen diogelu’r stociau o bysgod yng Nghymru er mwyn sicrhau bod y pysgota a geir yma yn parhau i fod o’r radd flaenaf.

Pysgota ar gyfer y gangen las – amseru, technegau a phlu

Ym marn llawer o bobl, mis Medi, mis Hydref a mis Tachwedd yw’r adeg orau un ar gyfer pysgota am y gangen las, sef yr adeg y mae’r bluen sych yn dod i’w bri. Wrth i’r dail newid lliw a’r boreau barugog ddechrau, gellir cael llawer o hwyl wrth i ganghennau glas ymateb yn frwd i batrymau plu modern a thraddodiadol fel ei gilydd. Meintiau bach sydd orau fel arfer, o faint bachyn 16 i 20, ac mae’r plu ‘F’ CDC (cul de canard) poblogaidd yn ddewis ardderchog oherwydd y bydd nymffod melynwyrdd (olives) yn esgor o hyd. Ar ddyddiau pan nad ydynt yn esgor, yna gall patrwm traddodiadol fel y Grayling Steel-blue fod yn llwyddiannus iawn, gan beidio ag anghofio hen ffefrynnau fel y Red Tag a Sturdy’s Favourite.

Dan amodau llai ffafriol, mae techneg y ‘ddeuawd’ yn opsiwn arall, yr adwaenir yn aml fel arddull Seland Newydd, neu klink and dink, lle mae nymff â phen o dwngsten yn cael ei dal yn y dŵr o dan bluen sych â phlufyn mawr (y dangosydd). Nid yw patrwm y dangosydd yn hanfodol bwysig, ac o blith y nymffod niferus sydd ar gael heddiw, byddai pluen Pheasant Tail Nymph â fflach ar ei chefn neu Gold Ribbed Hare’s Ear yn ddewisiadau da. Defnyddir bachau o faint 16/14 fel rheol, a chânt eu defnyddio ar diped o oddeutu metr o hyd ar gyfer dyfnderoedd arferol o ddŵr. Peidiwch â synnu os bydd pysgodyn yn cymryd y dangosydd! Dylid pysgota’r cyfuniad yn yr un modd â phluen sych unigol, naill ai i fyny’r afon, neu i fyny ac ar draws, a chodi’r wialen ar unwaith os yw’r dangosydd yn mynd o’r golwg yn rhannol neu’n llwyr.

grayling fishing flies

Ar y dyddiau garw hynny, sy’n aml yn wlyb, sy’n golygu nad yw’n ymarferol defnyddio pluen sych neu ddeuawd, mae’n beth da i fynd yn ôl i ddefnyddio tîm o dair pluen wleb sydd, o’u pysgota ar draws ac i lawr y rhediadau cyflymach, yn gallu bod yr un mor effeithiol ag y maent ar gyfer pysgota am frithyllod yn y gwanwyn. Caiff y plu eu clymu ar ddiwedd pennau llinynnau o ddim mwy na thair modfedd o hyd, â bwlch o dair troedfedd rhyngddynt, ar flaenllinyn blaenfain sy’n naw troedfedd o hyd. Oherwydd y bydd nymffod melynwyrdd yn esgor o hyd ar adeg hon y flwyddyn, mae’r Waterhen Bloa yn y safle uchaf (agosaf at y rîl) o blith y patrymau sydd fwyaf effeithiol. Mae’r Partridge & Copper yn batrwm pryfyn cop llwyddiannus iawn, y gellir ei bysgota yn y safle canol, a gallai’r bluen ar y pwynt fod yn batrwm ffansi, traddodiadol fel y Red Tag neu’r Grayling Steel-blue neu batrwm syml fel y Black Spider hyd yn oed. Dydw i ddim yn gweld bod angen gorgymhlethu pethau.

Er gwaethaf effeithiolrwydd y tair techneg ddiwethaf, ‘nymffio’ yw’r dull mwyaf poblogaidd o bysgota am y gangen las erbyn hyn – naill ai nymffio Tsiecaidd neu nymffio Ffrengig. Byddant yn dal pysgod drwy gydol y tymor, yn enwedig dan amodau gwirioneddol aeafol. Mae’r gangen las yn bwydo ar waelod yr afon neu’n agos ato, felly mae plu â phwysau ar batrwm nymffod yn eu parth darged. Y pryf pric yw’r prif bryfyn naturiol, ac mae llawer o’r patrymau mwyaf llwyddiannus o nymffod yn edrych yn debyg iddo. Yn ogystal â’r patrymau â golwg mwy naturiol, ceir nifer di-ri o batrymau ffansi, sy’n aml yn cynnwys lliw pinc/coch neu borffor, sy’n ddeniadol iawn i’r gangen las. Defnyddir plu â phen o lain twngsten fel rheol, ac mae lliwiau aur, arian a chopr i gyd yn effeithiol. Gyda’r dechneg nymffio Tsiecaidd, defnyddir tri phatrwm plu eithaf trwm tua 20 modfedd ar wahân, y cânt eu pysgota ar linyn cymharol fyr mewn llifoedd trymach, dyfnach. Yn achos nymffio Ffrengig, dim ond dwy nymff â phwysau llawer llai a ddefnyddir, ond ar flaenllinyn sy’n sylweddol hwy. Gwneir defnydd o ddangosydd brathu yn y ddau arddull nymffio, ac mae’r bwlch rhyngddo a’r bluen nesaf yn amrywio yn ôl y dyfnder. Mae’n amhosibl taflu’r llinyn yn yr ystyr gonfensiynol oherwydd bod y llinyn wedi’i wneud o nylon fel rheol, ac felly defnyddir techneg arbennig, sef ‘lluchio’ i bob pwrpas. Mae angen cael gwialen hir, ysgafn ar gyfer y dull hwn, er enghraifft gwialen 3 phwysen sy’n ddeg troedfedd o hyd ac sydd â symudiad parabolig.

Y pum afon orau yng Nghymru ar gyfer pysgota am y gangen las

Byddai’n anodd argymell y lleoliadau gorau o ran y gangen las oherwydd bod pob un o’r dyfroedd y soniwyd amdanynt yn rhagorol ac yn werth ymweld â nhw. Fodd bynnag, byddwn i’n dethol y canlynol fel fy hoff leoliadau, yn bersonol:

Afon Dyfrdwy: Gellir pysgota am y gangen las ar hyd milltiroedd ar filltiroedd heb eu hail o’r Bala i lawr i Langollen.

Afon Hafren: O Gaersws i Landinam.

Afon Gwy: I lawr yr afon o Raeadr Gwy. Mae’r pysgodfeydd a argymhellir yn cynnwys Doldowlod, Dolgau a Chraig Llyn. I lawr yr afon o Lanfair-ym-Muallt: Aber-nant ac yn agos i Erwyd – Tŷ Newydd, Gromain a Glanwye Isaf.

Afon Irfon: Ymhlith eraill, mae Cefnllysgwyn yn bysgodfa dda iawn sydd hefyd yn caniatáu’r dechneg o ‘drotio’ (sef y dechneg o gyflwyno abwyd fel ei fod yn symud gyda’r cerrynt ar waelod yr afon). Gellir archebu lle ynddi drwy basbort pysgota Sefydliad Gwy ac Wysg.

Afon Taf: Yn ddiamau, Cymdeithas Pysgotwyr Plu’r Gweilch sydd â’r pysgota gorau o ran y gangen las, a hynny o ystad ddiwydiannol Trefforest i fyny’r afon tuag at ei chyfuniad ag afon Cynon yn Abercynon. Mae tocynnau diwrnod ar gael o’r Royal Café ym Mhontypridd.

Os gofynnir i mi enwi fy hoff bysgodyn, y gangen las fyddai hwnnw, ac fy hoff le i’w dal? Cymru!

Rwy’n gobeithio y bydd y wybodaeth yn yr erthygl hon yn eich temtio i ymweld â Chymru ac i fwynhau’r cyfleoedd gwych sydd ganddi i’w cynnig o ran pysgota am y gangen las.

Louis Noble, Uwch-hyfforddwr Proffesiynol Genweirio Pysgod Hela

Cylchlythyr

Blog
beginners guide to lure fishing

Byd rhyfeddol pysgota ag abwyd ffug neu lith! Canllaw i ddechreuwyr

Yn y canllaw pysgota hwn, mae’r awdur, y cyflwynydd teledu a’r archwilydd Will Millard yn cymryd golwg ar bysgota â…

Darllen mwy
Blog

Manteision Pysgota i Iechyd Meddwl a Llesiant Corfforol

Mae pysgota’n weithgaredd hamdden sydd wedi’i fwynhau gan bobl ym mhob cwr o’r byd ers canrifoedd. Nid yn unig mae’n…

Darllen mwy
Blog
fishing river irfon

Pysgota Canghennau Glas yng Nghymru yn yr hydref: Pleser y Tymor

Wrth i’r hydref afael yng nghefn gwlad Cymru, mae pysgotwyr o bob cwr o’r wlad yn aros yn eiddgar am…

Darllen mwy