Hywel y pysgotwr enwog yn dweud y dylai GIG Cymru annog pobl i wirioni ar bysgota yn lle rhoi tabledi ar bresgripsiwn

Dylai meddygon yng Nghymru allu rhoi genweirio ar bresgripsiwn yn lle cyffuriau gwrth-iselder, yn ôl un o bysgotwyr gorau’r DU.

Daw’r alwad gan gyn-bencampwr pysgota’r byd Hywel Morgan sydd eisiau perswadio GIG Cymru y gall treulio prynhawn ar lan yr afon fod yn well i iechyd meddwl na chymryd tabledi.

Bydd yn curo’r drwm dros gamp pysgota a’i heffaith gadarnhaol ar iechyd meddwl pan fydd yn gyfrifol am yr adran Bysgota yn Ffair Gȇm Cymru a gynhelir dros ddeuddydd ar Ystâd y Faenol, ger Bangor, ar benwythnos Medi 9 a 10.

Bydd y sioe, a drefnir ar y cyd â’r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Helwriaeth a Bywyd Gwyllt, hefyd yn cynnwys popeth o fwyeill i gadwraeth, saethu a bywyd gwyllt, a disgwylir iddi ddenu 20,000 o bobl i 500 erw godidog yr ystâd sy’n edrych dros y Fenai.

Dechreuodd Hywel, sy’n fab i’r pysgotwr chwedlonol Moc Morgan, bysgota pan oedd yn ddwyflwydd oed yng Ngheredigion, ac mae wedi bod yn gapten ar dîm Cymru yn y Gemau Rhyngwladol Cartref deirgwaith, lle mae wedi cipio teitl y Brif Wialen deirgwaith, yn ogystal ag ennill teitlau castio pencampwriaeth y byd, gosod record byd trwy gastio 66 gwialen ar yr un pryd a gwneud ymddangosiadau teledu rheolaidd.

Meddai: “Mae manteision therapiwtig pysgota yn enfawr ac yn Lloegr mae sawl awdurdod iechyd bellach yn rhoi cyrsiau pysgota yn lle cyffuriau gwrth-iselder ar bresgripsiwn ar gyfer materion iechyd meddwl.

“Mae pobl sy’n dioddef o iselder yn cael sesiynau pysgota ac mae pob pysgotwr yn gwybod bod y byd yn stopio pan fyddwch chi’n mynd i bysgota.

“Yr unig reswm rydych chi’n mynd â ffôn symudol gyda chi i bysgota yw i dynnu llun o’r pysgodyn rydych wedi’i ddal. Rydych chi’n anghofio am straen bywyd ac mae’n ffordd wych o ymlacio.

“Mae’n ardderchog bod byrddau iechyd yn Lloegr bellach yn cydnabod hyn ac mae angen i ni weld hyn yn digwydd yma yng Nghymru hefyd.

“Mae yna sefydliad dros y ffin o’r enw Tackling Minds ac maen nhw’n gwneud gwaith gwych ac mae wedi bod yn llwyddiannus iawn, iawn wrth helpu pobl ag iselder.”

Ychwanegodd Hywel, sy’n byw ym Mhontrhydfendigaid, yng Ngheredigion: “Roedd fy nhad bob amser yn arfer dweud nad yw pob awr rydych chi’n pysgota yn cyfrif tuag at eich cylch bywyd felly mae’n awr ychwanegol o fywyd. Rydych chi’n anghofio popeth pan fyddwch chi’n pysgota. Mae’n llesol iawn.”

Mae ymchwil a gynhaliwyd gan yr Angling Trust wedi dangos bod 86 y cant o bysgotwyr yn dweud bod pysgota wedi helpu i wella symptomau straen neu gorbryder, a byddai 95 y cant yn argymell pysgota fel ffordd o  helpu i reoli iechyd meddwl neu lefelau straen.

Mae hefyd yn dda i iechyd ein hafonydd, yn ôl Hywel a fydd yn arddangos ei allu i gastio ym Mhentref Pysgota Ffair Gȇm Cymru sy’n cael ei noddi gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae James Gower, prif weithredwr Stable Events sy’n trefnu’r digwyddiad, ochr yn ochr â The Game Fair a The Scottish Game Fair, yn llwyr gefnogi galwad Hywel i bysgota gael ei gydnabod gan GIG Cymru fel triniaeth i wella iechyd meddwl.

Meddai: “Cafodd llawer o bobl eu denu i bysgota yn ystod cyfnod clo Covid oherwydd dyma un o’r chwaraeon cyntaf i ail-agor a’ch galluogi chi i fynd allan i’r awyr agored a mwynhau cefn gwlad.

“Mae hynny’n bwysig iawn i iechyd ein hafonydd hefyd gan mai pysgotwyr yw llygaid a chlustiau ein dyfroedd – nhw sy’n dod i wybod am lygredd yn gyntaf ac yn seinio’r rhybudd.

“Dyna pam mae’n bwysig cael plant i gymryd rhan o gyfnod cynnar oherwydd nhw fydd y rhai fydd yn gofalu am ein hafonydd, llynnoedd a’n nentydd yn y dyfodol.”

Bydd hi’n benwythnos prysur yn Ffair Gêm Cymru i Hywel sy’n cydlynu ac arwain y gweithgareddau pysgota yn ogystal ag arddangos ei sgiliau castio ac arwain Pencampwriaethau Castio’r DU.

Bydd hynny’n denu cystadleuwyr o safon a fydd yn cynnwys prif bysgotwyr Fair Gêm yr Alban ym Mhalas Scone a The Game Fair yn Ragley Hall gyda’r rownd derfynol ddydd Sul yn penderfynu pwy fydd yn cael ei goroni’n Bencampwr Ffeiriau Gêm y DU.

Mae’n rhan o raglen ddifyr o weithgareddau dros ddeuddydd ar yr ystâd enwog uwchben y Fenai lle bu’r Teulu Brenhinol yn aros adeg Arwisgiad y Brenin Charles yn Dywysog Cymru yng Nghaernarfon yn 1969.

Wrth galon y sioe mae’r brif arena a fydd yn llwyfannu rhaglen dreigl o ddigwyddiadau ac arddangosiadau gan Fwyellwyr Clwyd, yr adarydd gwyllt Chris Green, y Dyn Cefn Gwlad o Gernyw, a thimau o gŵn sbaniel a chŵn adar yn cymryd  rhan yng nghystadleuaeth Ryngwladol y Pedair Gwlad.

Bydd y ffermwr teledu adnabyddus Gareth Wyn Jones yn cynnal bwyty dros dro ar y safle, Cwtch Kitchen, a fydd yn gweini seigiau tymhorol gan gynnwys byrgyrs gwiwerod llwyd tra bydd materion cefn gwlad y dydd yn cael sylw yn y Theatr Sgyrsiau Cefn Gwlad.

Mae cyfle hefyd i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau gwledig gan gynnwys saethyddiaeth, pysgota, saethu gwn aer, saethu clai a thrin cŵn gwn a dysgu sut i oroesi yn y gwyllt gyda’r meistr byw yn y gwyllt Huw Jones o Ynys Twca.

Mae’r digwyddiad hefyd yn ddigwyddiad codi arian pwysig ar gyfer elusen cefn gwlad yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Helwriaeth a Bywyd Gwyllt – elusen 92 oed sy’n cynnal ymchwil hanfodol i rywogaethau mwyaf agored i niwed Cymru a digwyddiad manwerthu mawr gyda 150 o stondinau gan gynnwys brandiau dillad ac offer mawr ochr yn ochr â manwerthwyr annibynnol bach a chrefftwyr.

Mae’r digwyddiad ar agor bob dydd rhwng 9am a 5.30pm gyda pharcio am ddim a mynediad am ddim i blant dan wyth oed. Am fwy o wybodaeth am Ffair Gêm Cymru ewch i https://www.welshgamefair.org

Cylchlythyr

Blog
beginners guide to lure fishing

Byd rhyfeddol pysgota ag abwyd ffug neu lith! Canllaw i ddechreuwyr

Yn y canllaw pysgota hwn, mae’r awdur, y cyflwynydd teledu a’r archwilydd Will Millard yn cymryd golwg ar bysgota â…

Darllen mwy
Blog

Manteision Pysgota i Iechyd Meddwl a Llesiant Corfforol

Mae pysgota’n weithgaredd hamdden sydd wedi’i fwynhau gan bobl ym mhob cwr o’r byd ers canrifoedd. Nid yn unig mae’n…

Darllen mwy
Blog
fishing river irfon

Pysgota Canghennau Glas yng Nghymru yn yr hydref: Pleser y Tymor

Wrth i’r hydref afael yng nghefn gwlad Cymru, mae pysgotwyr o bob cwr o’r wlad yn aros yn eiddgar am…

Darllen mwy