Taflwch lein a dihangwch rhag y dwndwr

Dyma’r adeg o’r flwyddyn pan fydd ein meddyliau’n troi at gymryd ychydig o amser i ni’n hunain a gwneud y pethau sydd o les i’n hiechyd a’n lles. I lawer ohonom, mae hyn yn golygu pacio gwialen a lein a dianc rhag y dwndwr ar ein dyfroedd gwych yma yng Nghymru.

Mae pysgota’n parhau i fod yn boblogaidd yng Nghymru, gyda miloedd o bobl o bob oed a gallu yn meddu ar drwydded pysgota â gwialen.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn annog y rhai sydd am brofi’r holl hwyl a chynnwrf a ddaw wrth bysgota i wneud cais ar-lein am drwydded pysgota â gwialen.

Meddai Ben Wilson, Prif Gynghorydd Pysgodfeydd Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Rydyn ni eisiau i gymaint o bobl â phosib brofi’r pleser pur ddaw wrth bysgota, felly drwy gydol yr haf byddwn yn annog pawb i ‘ddianc rhag y dwndwr’ trwy naill ai ddychwelyd at bysgota neu roi cynnig arno am y tro cyntaf.

“Mae llu o weithgareddau hamdden i’r hen a’r ifanc ar ein hafonydd, llynnoedd a chronfeydd dŵr yng Nghymru, lle mae’r amrywiaeth o gyfleoedd sydd ar gael i bysgota yn sicrhau bod rhywbeth i bawb, o’r pysgotwr cwbl ddibrofiad i’r un sy’n hen law arni.

“Mae llu o fanteision i fynd i bysgota a gallant wneud gwahaniaeth gwirioneddol i les meddyliol a chorfforol drwy gysylltu pobl â byd natur.”

Os ydych chi’n 13 oed neu’n hŷn, bydd angen trwydded pysgota â gwialen arnoch chi i bysgota am eogiaid, brithyllod, pysgod dŵr croyw, brwyniaid Conwy neu lysywod yng Nghymru neu Loegr. Mae consesiynau ar gael i bysgotwyr hŷn ac anabl, tra bod trwyddedau i bobl ifanc ar gyfer y rhai sy’n 13 i 16 oed am ddim, ond mae angen i bysgotwyr ifanc gofrestru.

Mae incwm a gynhyrchir gan drwyddedau pysgota â gwialen yn helpu i ddiogelu a gwella pysgodfeydd a chyfleusterau i bysgotwyr. Mae pysgota heb drwydded gwialen ddilys yn anghyfreithlon a gallai arwain at euogfarn droseddol a dirwy.

Mae trwyddedau ar gael am 12 mis, 8 Diwrnod ac 1 Diwrnod a gall siaradwyr a dysgwyr Cymraeg nawr wneud cais am eu trwydded yn Gymraeg. Gellir eu prynu’n gyflym ac yn hawdd ar-lein yn “Cael Trwydded Bysgota â Gwialen” ar GOV.UK neu dros y ffôn drwy ffonio Asiantaeth yr Amgylchedd ar 0344 800 5386.

Ac mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys manylion llawn am sut i brynu trwydded yn ogystal â rheolau ynglŷn â sut, pryd a ble y gallwch bysgota yng Nghymru, i’w gweld ar wefan CNC.

Ychwanegodd Ben:

“Os ydych chi’n newydd i bysgota neu os nad ydych chi wedi bod yn pysgota ers tro, mae digon o gefnogaeth ac arweiniad ar gael hefyd: popeth o ble i bysgota i ba offer sydd ei angen arnoch er mwyn dechrau arni.

“Mae ymuno â chlwb pysgota yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd; gallwch chi rannu cwch am ddiwrnod ar gronfa ddŵr neu gofrestru ar gyfer un o’r cystadlaethau pysgota niferus sy’n cael eu cynnal ledled Cymru drwy gydol y flwyddyn.

“Neu os oes gennych chi ffrind neu berthynas a hoffai roi cynnig ar bysgota am y tro cyntaf, beth am fanteisio ar fenter Take a Friend Fishing sy’n rhedeg o 27 Gorffennaf i 1 Medi, sydd â’r nod o roi cyfle i fwy o bobl roi cynnig ar bysgota drwy ganiatáu i bysgotwr trwyddedig gymryd pysgotwr sydd heb drwydded allan am y diwrnod.

“Am y cyngor gorau ar ble a sut i bysgota, ewch i wefan Pysgota yng Nghymru, fishingwales.net, lle gallwch chi ddod o hyd i bopeth fydd ei angen i chi fynd i bysgota p’un a ydych chi’n ddechreuwr neu’n bysgotwr profiadol.

“Mae gwefan Pysgota yng Nghymru yn cael ei hariannu’n rhannol gan ddefnyddio incwm trwyddedau pysgota â gwialen a dyma’r wefan orau i bysgotwyr lleol ac ymwelwyr sydd am gael gwybod am gyfleoedd pysgota yng Nghymru.

“Mae yna gyfoeth o gyfleoedd o ran pysgota yng Nghymru ac mae digon o ddewis gan gynnwys afonydd a chronfeydd bras a dyfroedd llonydd, felly nawr yw’r amser i fynd allan i bysgota.”

Am fwy o wybodaeth am brynu trwydded pysgota â gwialen, ewch i: Cyfoeth Naturiol Cymru / Chwilio / trwydded gwialen

Am fwy o wybodaeth am bysgota yng Nghymru, ewch i Pysgota yng Nghymru | (fishingwales.net)

Darganfyddwch fwy am Take a Friend Fishing yn Take a Friend Fishing – register for a free one-day fishing licence

I roi gwybod am bysgota anghyfreithlon, ffoniwch linell gymorth digwyddiadau CNC ar 03000 65 3000.

Cylchlythyr

Newyddion

Cymdeithas Pysgota Prysor Pysgota Ieuectid AM DDIM

Darllen mwy
Blog
beginners guide to lure fishing

Byd rhyfeddol pysgota ag abwyd ffug neu lith! Canllaw i ddechreuwyr

Yn y canllaw pysgota hwn, mae’r awdur, y cyflwynydd teledu a’r archwilydd Will Millard yn cymryd golwg ar bysgota â…

Darllen mwy
Blog

Manteision Pysgota i Iechyd Meddwl a Llesiant Corfforol

Mae pysgota’n weithgaredd hamdden sydd wedi’i fwynhau gan bobl ym mhob cwr o’r byd ers canrifoedd. Nid yn unig mae’n…

Darllen mwy