Tactegau’r Gaeaf ar Gyfer Dŵr Llonydd yng Ngarnffrwd

Efallai nad oes cynifer o bysgodfeydd dŵr llonydd o gwmpas y DU ag y bu ar un adeg, ond mae’r rhai sydd gennym yng Nghymru yn ddyfroedd o safon.

Mae Garnffrwd yng Ngorllewin Cymru yn un o’r pysgodfeydd hyn, sydd wedi’i lleoli mewn ardal goediog, hardd ar lethr yn Sir Gaerfyrddin. Mae ymhlith y rhai cyntaf sydd wedi agor ei drysau i enweirwyr, a’r flwyddyn nesaf bydd ei phen-blwydd 35 blynedd.

Dros y blynyddoedd, rwyf wedi pysgota ym mhob un o ddyfroedd llonydd Cymru drwy fy ngwaith fel ffotonewyddiadurwr ar gyfer amrywiaeth o gyhoeddiadau cenedlaethol. Gellir dal brithyllod seithliw a brithyllod ym mhobman, o’r gogledd i’r de ac o’r dwyrain i’r gorllewin, ac mewn rhai dyfroedd ceir hefyd frithyllod euraidd, brithyllod glas a brithyllod teigr. Mae Garnffrwd yn ddim ond un o’r lleoliadau hyn, ond yn ddiweddar mae ganddo un brîd arall o frithyllod sy’n rhan o restr o bysgod yr hoffwn i eu dal cyn fy mod i’n marw, sef y sbartig.

Ceir y sbartig o ganlyniad i groesi brithyll nant a thorgoch yr Arctig, ac mae Garnffrwd yn un o’r unig ddyfroedd sy’n stocio’r pysgod syfrdanol hyn. Felly ar fore oer, clir ym mis Hydref, teithiais tua’r gorllewin ar hyd yr M4 yn y gobaith o gysylltu ag un o’r ychwanegiadau cymharol newydd hyn i’r olygfa pysgota dyfroedd llonydd.

Y diwrnod

Nid yw’n talu ffordd codi’n gynnar yn ystod y gaeaf, gan nad oes dim i’w ennill o wneud hynny. Mae tymheredd y dŵr fel arfer yn rhy oer i lawer ddigwydd. Nid yw’r pysgod yn dechrau symud nes bod y dŵr yn cynhesu, a hynny ganol bore. Felly’r peth cyntaf o’m safbwynt i yw bwyta brecwast da, a dyna’n union a wnes i yng Ngarnffrwd y bore hwn. Paned a chlonc â Jamie, y perchennog, cyn bwyta llond fy mol o frecwast llawn Cymreig gyda bara lawr a chocos, sef saig arbennig Christine a phryd sy’n rhaid ei brofi.

Os cewch chi gyfle, mae bob amser yn werth sgwrsio â pherchennog neu reolwr y dŵr cyn pysgota oherwydd y gallwch ddysgu llawer iawn am blu, tactegau ac ardaloedd sy’n pysgota’n dda. Mae’n arbed llawer o amser, yn enwedig pan fo’r dyddiau’n fyr.

Penderfynais baratoi ddwy wialen – rwy’n teimlo’i bod hi’n bwysicach gwneud hyn yn y gaeaf nag yw hi unrhyw bryd arall yn ystod y flwyddyn oherwydd y gall esgoriad ddigwydd a gorffen yn sydyn ar yr adeg hon. Mae hyn yn tueddu i ddigwydd tua hanner dydd pan fo’r tymheredd yn ffafrio unrhyw fath o bryfyn sy’n debygol o esgor.

Mae cam cyntaf fy nghynllun yn golygu mynd draw i gornel yr argae, sef un o’m hoff leoedd ar y llyn, a’r dyfnaf. Rwy’n paratoi llinyn canolig, clir, sef deg troedfedd o linyn fflworocarbon â straen torri o chwe phwys â mursen felynwyrdd â phen aur ar ei ddiwedd. Rwy’n taflu’r llinyn ymhell i’r llyn ac yn gadael amser iddo suddo cyn ei dynnu i mewn yn araf â symudiad ffigur wyth. Rwy’n tueddu i bysgota’n araf dan amodau oer oherwydd nad yw pysgod, gan amlaf, yn hoff o symud yn gyflym pan fo’r tymheredd yn isel. Rwy’n taflu’r llinyn ar ffurf gwyntyll llaw gan chwilio am bysgod mewn arc o’m mlaen i gan fod hon yn ffordd dda o gyflwyno’ch pluen o flaen y pysgodyn heb iddo orfod symud yn bell i’w chymryd.

Yn ystod yr awr neu ddwy nesaf, rwy’n cael dwy ergyd fach yn agos i mewn wrth i mi orffen tynnu’r llinyn i mewn. Felly rwy’n canolbwyntio ar yr ychydig droedfeddi olaf, cyn oedi a chodi’r wialen yn araf, gan ei siglo wrth i mi wneud hynny, sy’n ddull gwych o atynnu pysgodyn sy’n dilyn. Mae hyn yn arbennig o wir os yw patrwm eich pluen yn cynnwys marabŵ, oherwydd y mae’n ei bywiogi ac yn gwneud iddi phylsadu wrth iddi godi tua’r wyneb. Drwy ddefnyddio’r dull hwn, nid oes rhaid i mi aros yn hir cyn dal brithyll seithliw hardd o tua thri phwys, sy’n dyrnu’r wyneb cyn iddo fwrw’r bachyn i ffwrdd.

Tua hanner dydd, mae pethau’n cynhesu, ac, yn ôl y disgwyl, mae ychydig o bysgod yn dechrau ymddangos ar yr wyneb, felly rwy’n rilio’r llinyn i mewn ar unwaith a newid drosodd i’r wialen arall roeddwn i eisoes wedi’i pharatoi â llinyn arnofiol 5 pwysyn gyda dwy bluen sych, sef hopper du ar y pen llinyn a shuttlecock ar y pwynt. Yn fy mhrofiad i, y ddau batrwm hyn fu’r cyfuniad gorau wrth bysgota â phlu sych, oherwydd nid yn unig y mae’r hopper yn efelychiad da o buzzer sych, mae hefyd yn efelychu pryfyn daearol sydd wedi’i chwythu i wyneb y dŵr, tra bo’r shuttlecock CDC yn batrwm gwych ar gyfer chwiler gwybedyn yn yr haenen ddŵr sydd ar fin esgor. Ar unwaith, mae pysgod yn dangos diddordeb yn fy hopper a chyn hir rwyf wedi’m cysylltu â brithyll spartig o tua thri phwys sy’n ymladd yn gryf. Ar ôl brwydr fywiog, mae’n llithro i mewn i fy rhwyd barod. Roeddwn i uwchben fy nigon, a dyna bysgod syfrdanol ydyn nhw, gyda’u smotiau majenta. Ar ôl tynnu ychydig o luniau ohono, rwy’n ei ddychwelyd i’r dŵr; mae’n dda gweld pysgod yn cael eu rhoi’n ôl yn y gaeaf oherwydd eu bod yn nofio i ffwrdd yn gryf gan eu bod yn adfer yn gyflym mewn dŵr oer.

Ar ôl taflu’r llinyn ychydig mwy o weithiau, mae’r cyfnod o gymryd y plu yn dod i ben, felly rwy’n penderfynu symud tua 50 llathen ar hyd y lan oherwydd y gallaf weld ychydig o bysgod yn ymddangos. Oherwydd nad yw’r pysgod yn fywiog iawn mewn tywydd oer, mae’n talu ffordd i symud o gwmpas ac i beidio ag aros mewn un man yn rhy hir. Yr adeg hon o’r flwyddyn, mae angen i chi bysgota digon o ddŵr er mwyn dod o hyd i’r pysgod.

Wrth i mi nesáu at y llwyfan, gallaf weld bod un pysgodyn yn bwydo’n gyson yn agos i mewn. Rwy’n sleifio draw, disgyn i ‘mhengliniau a thaflu fy llinyn. Rwy’n cael codiad bach ar ôl fy hopper unwaith eto, ac wrth i mi godi’r wialen mae’r pysgodyn yn saethu allan i’r llyn gyda’r llinyn yn sgrechian oddi ar fy rîl. Ar ôl iddo geisio nofio o dan y llwyfan ychydig o weithiau, rwy’n llwyddo i’w rwydo. Spartig hardd arall, ychydig yn fwy o faint y tro hwn – rwy’n amcangyfrif ei fod tua phedwar pwys.

Daliais i ddau arall yn hwyrach y diwrnod hwnnw cyn i’r tymheredd ostwng a chyn i’r hwyl ddod i ben. Byddwn wedi bod yn fodlon ar ddal un spartig yn unig, ond roedd yn hollol annisgwyl dal pedwar ohonynt, yr oeddent i gyd wedi dod i’r plu sych.

Rhywbeth arall sy’n werth sôn amdano yw’r ffaith fod brithyllod wrth eu boddau ar ddechrau’r gaeaf oherwydd eu bod yn tueddu i roi’r gorau i fwydo yn ystod yr haf, ac felly pan maent yn synhwyro bod y tymheredd yn gostwng maent yn dechrau bwydo er mwyn rhoi pwysau ymlaen ar gyfer misoedd y gaeaf. Er na wnes i eu temtio yn ystod fy ymweliad y tro hwn, mi fyddaf yn dychwelyd cyn hir. Yn fy marn i, mae llawer o hwyl a sbri i’w gael yn ystod y misoedd oerach o ganlyniad i gyflwyno’r sbartig, a hynny oherwydd y rhan o’u geneteg sy’n deillio o ochr torgoch yr Arctig yn ôl pob tebyg.

Mae Garnffrwd wir yn ddŵr ar gyfer dulliau efelychol, a dyma’r dŵr delfrydol ar gyfer y genweirwyr hynny sy’n mwynhau dull myfyriol a hwyl ar yr wyneb. Ceir yma ddigonedd o borthiant naturiol ac esgoriadau helaeth o bryfed. Tua mis Ebrill, mae’r lle yma’n hollol wahanol gyda’i esgoriadau o nymffod melynwyrdd, ond mae honno’n stori arall.

Tactegau a chynlluniau ar gyfer dyfroedd llonydd

Cynllun 1

Gwialen #7 deg troedfedd o hyd. Llinyn canolig gyda blaenllinyn deg neu 12 troedfedd o hyd gyda phatrwm atyniadol fel mursen â phen aur, catswhisker neu benbwl du.

Mae’r dull hwn fel arfer yn denu’r pysgod stoc newydd. Taflwch linyn hir, gadewch iddo suddo am tua deg eiliad cyn ei dynnu’n ôl yn gyflym neu mewn tyniadau byr. Mae hefyd yn werth newid y cyflymder rydych yn tynnu’r llinyn yn ôl ac oedi/ailddechrau er mwyn denu’r pysgod i gymryd y bluen. Fy hoff ddull yw symudiad ffigur wyth oherwydd eich bod mewn cysylltiad cyson â’ch pluen.

Cynllun 2

Gwialen #5 deg troedfedd o hyd. Llinyn ysgafnach ar gyfer gwaith mwy celfydd oherwydd bod pysgod yn aml yn cymryd pluen mewn ffordd ysgafn, sy’n golygu bod angen defnyddio dull sensitif ac effro. Plu sych neu buzzers. Y ddau brif batrwm rwy’n troi atynt o ran plu sych yw CDC du a hopper du, gan glymu’r hopper ar y pwynt fel arfer. Sicrhewch eich bod yn datseimio’r blaenllinyn – rwy’n defnyddio clai pannwr. O ran nymffod, byddwn yn dewis Hare’s Ear a Diawl Bach, a fy nghyngor gorau ar gyfer nymffio yw ei bod yn amhosib tynnu’r llinyn yn ôl yn ddigon araf, ac, yn ddelfrydol, dylech bysgota gyda gwynt sy’n dod o’r ochr oherwydd y bydd y crychau yn y dŵr yn eich helpu i barhau eich cyffyrddiad â’r llinyn wrth iddo grymu.

Cynllun 3

Gwialen #5 deg troedfedd o hyd. Dangosydd bwng neu olwg. Nid wy’n defnyddio blobiau neu fwydod yn bersonol, ond mae’n wir, ar y diwrnod cywir, eu bod wedi profi i fod yn ddalwyr pysgod. Mae’n well gennyf ddefnyddio buzzers, yn enwedig rhai epocsi du, ac os byddaf yn pysgota â dau fachyn, byddaf yn clymu cynrhonyn coch ar y pwynt. Dalir pysgod gwell (bwydwyr naturiol) drwy’r dull hwn yn aml.

Dolen i bysgodfeydd dŵr llonydd yng Nghymru.
https://fishingwales.net/cy/pysgota-gem/


Gwrandewch ar bodlediad Ceri ar Garnffrwd yma: https://castingwithcerijones.com/castingwithcerijonespodcast/episode13

Cylchlythyr

Blog
beginners guide to lure fishing

Byd rhyfeddol pysgota ag abwyd ffug neu lith! Canllaw i ddechreuwyr

Yn y canllaw pysgota hwn, mae’r awdur, y cyflwynydd teledu a’r archwilydd Will Millard yn cymryd golwg ar bysgota â…

Darllen mwy
Blog

Manteision Pysgota i Iechyd Meddwl a Llesiant Corfforol

Mae pysgota’n weithgaredd hamdden sydd wedi’i fwynhau gan bobl ym mhob cwr o’r byd ers canrifoedd. Nid yn unig mae’n…

Darllen mwy
Blog
fishing river irfon

Pysgota Canghennau Glas yng Nghymru yn yr hydref: Pleser y Tymor

Wrth i’r hydref afael yng nghefn gwlad Cymru, mae pysgotwyr o bob cwr o’r wlad yn aros yn eiddgar am…

Darllen mwy