Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i wella'ch profiad.

Llyn Syfaddan - Fishing in Wales
llangorse lake

Llyn Syfaddan

Mae Llyn Safaddan yn lyn naturiol o amgylch 400 acer.

Mae’r llyn yn eiddo i Gwmni Cadwraeth a Rheoli Llyn Syfaddan Cyf., sydd yn rhoi trwyddedau ar gyfer cychod a physgota ar y llyn.

Adnabyddir Llyn Syfaddan orau am bysgota penhwyaid rhagorol. Yn ddiweddar daliwyd nifer go lew o benhwyaid yn pwyso i fyny at 25 pwys. Yn y gorffenol, mae’r llyn wedi cynhyrchu pysgod trymach na 30 pwys, gyda un 68 pwys a ddaliwyd yn 1846 (sy’n dal yn chwedlonol).

Mae yn ddŵr ‘llifo’ da, gyda nifer fawr o benhwyaid yn bresennol. Mae’r llyn yn pysgota’n dda ar abwyd marw yn y gaeaf, a llithiau yn y Gwanwyn cynnar a’r Hydref. Mae hefyd yn le da ar gyfer pysgota penhwyaid gyda phlu.

Mae Llyn Syfaddan yn dda am bysgod brâs, yn arbennig am merfog, draenog, ac ysgreten er nid yw rhain yn cael eu pysgota’n amal.

O gychod yn unig mae pysgota, heb ddim pysgota o’r lan. Gellir llogi cychod, ond nid oes modur ar rhain, felly cynghorir i chi ddod a modur eich hun. Medrwch lawnsio eich cwch eich hun er mwyn pysgota, a bydd tâl i’w godi am wneud hynny.

Wedi ei drwytho mewn llên gwerin Cymru, mae Llyn Syfaddan yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), ac mae’r rhan fwyaf o’r lan o dan corsynen, gyda gwlau lili eang yn yr hâf.

Mae ynys yn y llyn, sydd mewn gwirionedd yn grannog a gafwyd ei sefydlu gan bennaeth Celtaidd. Gellid prynu tocynnau a llogi cychod o’r siop ar lan y llyn, ac mae manylion ar y wefan.

Newyddion COVID-19: Bydd rhaid archebu pysgota ar lein ar hyn o bryd (gweler dolen ar y wefan islaw). Ni ellir talu drwy ddefnyddio’r blwch gonestrwydd ar y diwrnod mwyach.

Dylid dychwelyd pob cwch pysgota erbyn pedwar y prynhawn fel y bydd yn bosib glanhau’r cychod ar gyfer eu defnyddio’r diwrnod canlynol.

Delweddau: Tim Hughes, Chris Hughes, Alan Parfitt

Llyn Syfaddan

Cyfeiriad Llangorse Lake
Brecon
LD3 7UA
Cyfarwyddiadau

Rhywogaethau yn y lleoliad hwn Label

llangorse pike
llangorse lake
llangorse pike 2
llangorse lake