Byd rhyfeddol pysgota ag abwyd ffug neu lith! Canllaw i ddechreuwyr
Yn y canllaw pysgota hwn, mae’r awdur, y cyflwynydd teledu a’r archwilydd Will Millard yn cymryd golwg ar bysgota â llith i ddechreuwyr, dull y gellir ei ddefnyddio mewn dŵr ffres a dŵr hallt ar gyfer sawl math o rywogaeth.
Does dim llawer o ddulliau pysgota sydd mor gyffrous â physgota â llith
Rydych yn rilio eich llith yn ôl tuag atoch chi. Troi handlen eich rîl yn araf a gweithio blaen y wialen. Allan yno, rhywle yn y dŵr, mae eich llith yn ymdroelli i ddenu – gan efelychu’n berffaith yr hyn fyddai pysgodyn abwyd wedi’i anafu yn ei wneud. Rydych yn ei dynnu ar ei ffordd, yn oedi, yna’n rhuthro – a BLAM! Mae wedi’i lorio gan bysgodyn rheibus!
Os ydych chi’n mwynhau pysgota arwyneb neu bysgota gwaelod gydag abwyd bwydo neu blwm, mae’n debyg y byddwch chi wedi arfer eistedd mewn un lle ac aros am fachiad. Mae pysgota â llith yn gofyn i chi fod yn llawer mwy deinamig a symudol: gan newid eich llith i arbrofi gyda gwahanol liwiau, symudiadau a dyfnderoedd; symud yn barhaus ar hyd ymyl y dŵr a chastio i lefydd a allai fod yn fagl i bysgodyn rheibus.
Gyda’ch gwialen yn eich llaw, mae’n golygu pan fyddwch chi’n cael bachiad, y bydd yn ymosodiad ffrwydrol fydd yn cyflymu’r galon ac y byddwch yn ei deimlo reit i lawr y wialen ac yn ddwfn i gledr eich llaw – moment llawn adrenalin sy’n troi unrhyw bysgotwr yn bysgotwr abwyd brwdfrydig am oes.
Ond beth sydd angen ei wybod er mwyn dechrau arni?
Mae yna amrywiaeth ddryslyd o gêr ar gael i’r pysgotwr abwyd a phe baech chi’n prynu popeth o’r cychwyn gallech wario ffortiwn cyn i chi ddechrau pysgota. Nid yn unig mae angen prynu rhai o’r gwialenni, riliau a rhubanau o’r ansawdd uchaf, mae pris llithiau yn gallu bod yn wirion o ddrud hefyd. Y newyddion da yw bod yna ddigon o gêr gwych ar gael sydd ddim yn mynd i fynd â chi i ddyled, ac fel mae’r hen ddywediad yn ei ddweud: mae’r rhan fwyaf o’r tacl drud iawn wedi’i gynllunio i ddal y pysgotwr, ac nid y pysgod. Rhyngoch chi a fi, fe ddefnyddiais i fy ngwialen rad i ddechreuwyr am dros ddegawd a dal degau o bysgod (a deud y gwir, dim ond eleni wnes i roi’r gorau i’w defnyddio!)
I fod yn onest, ar gyfer y rhai sy’n debygol o ddechrau arni, fe fydden i’n argymell edrych ar ddau beth yn unig: gwialen abwyd drymach i gastio llithiau mwy ar gyfer rhywogaethau fel penhwyaid, draenog cernog neu ddraenog y môr, a gwialen ysgafn i gastio llithiau ysgafnach ar gyfer rhywogaethau llai fel y draenogyn dŵr croyw, twb y dail neu’r brithyll, mewn dŵr croyw, neu gobïod, llyfrothod, brithyll Mair neu sgorpion môr, mewn dŵr hallt.
Bydd llawer o’r hyn rydych chi’n dewis ei gymryd yn dibynnu ar ba ddŵr a physgota rheibus sydd ar gael yn lleol i chi – siaradwch â’ch siop gêr neu glwb pysgota lleol, a defnyddiwch gronfa ddata eang ‘Pysgota yng Nghymru’ i gael cyngor ac arweiniad pellach. Yn eich dyfroedd llai, fel camlesi neu ddociau, ble mae’r pysgod yn llai hefyd o bosibl (ac nad oes angen castio ar raddfa fawr) efallai y byddwch am ganolbwyntio ar ochr ysgafnach y gamp; ond, os ydych chi’n pysgota cyrff mawr o ddŵr fel llynnoedd, cronfeydd dŵr, afonydd llydan neu fôr agored, bydd gwialen drymach yn rhoi’r nerth ychwanegol i chi ac felly dyna’r ffordd orau ymlaen. Dyw hynny ddim yn golygu y byddwch yn dal pysgod mawr mewn llefydd llai – neu i’r gwrthwyneb – yn wir, yn aml iawn, dwi’n mynd â’r ddwy wialen gyda mi i newid fy nhactegau wrth fynd ymlaen.
Gadewch i ni edrych ar offer a mathau o lithiau:
Gwialenni – mae’n well gwybod pa fath o bysgod y byddwch chi’n ceisio eu dal a llithiau o ba bwysau y byddwch chi’n eu taflu cyn prynu gwialen. Ni fydd llithiau ysgafn iawn yn hwyl i’w taflu ar wialen drom a byddwch wedi’ch cyfyngu’n fawr o ran faint allwch chi symud blaen y wialen a gwneud i’r llith blycio a dirgrynu ymlaen os yw blaen eich gwialen yn rhy stiff; ond, os ydych chi’n castio llith trymach ar wialen ysgafnach, mae perygl y gallech dorri blaen y wialen i ffwrdd yn llwyr. Yr hyn rydych chi eisiau yw’r cydbwysedd cywir rhwng llith a gwialen.
O ran y llithiau trymach mae gwialen gyda phwysau castio o 15 i 40 gram yn ddewis da yn gyffredinol, ac ar gyfer llithiau ysgafnach, fe fydden i’n argymell chwilio am bwysau castio o hyd at 15 gram – bydd y wialen a’r llith yn dangos y pwysau hyn yn glir ar y deunydd pacio a choes y wialen. O ran brandiau, rwy’n defnyddio modelau Savage Gear ar gyfer y ddau fath y dyddiau hyn, ond mae gan yr holl wneuthurwyr gwialenni mawr gitiau cychwyn da, felly edrychwch yn eich siop gêr leol am fargen, neu yn y farchnad ail law.
Riliau – Gallech osod sbŵl sbâr ar rîl y sbŵl sefydlog sydd gennych yn barod ar gyfer eich pysgota arnofio ac abwyd bwydo, ond mae’n llawer gwell mynd am rîl droelli bwrpasol gan frand ag enw da. Yn bersonol, rwy’n dal i ddefnyddio riliau sbŵl sefydlog ar gyfer pysgota â llith, ac yn ffafrio’r brandiau Penn, ond mae llawer o bysgotwyr â llith yn defnyddio’r dull lluosog – sydd yn cynnig rhai manteision o gymharu â’r sbŵl sefydlog. Ond wrth ddechrau, defnyddiwch yr hyn sy’n fwyaf cyfforddus i chi. Ar gyfer y wialen ysgafnach, ystyriwch fynd mor fach â dosbarth 1000 neu 2500; ar gyfer yr un drymach, bydd unrhyw beth o 4500 i 6000 yn gweithio’n dda.
Prif lein – Heb unrhyw amheuaeth, y lein orau ar gyfer pysgota â llith yw brêd. Mae’r diffyg hyblygrwydd o’i gymharu â monoffilament safonol yn rhoi llawer mwy o sensitifrwydd i chi, sy’n golygu eich bod chi’n gallu teimlo pob cnoc a chyffyrddiad wrth i chi adfer eich llith, a bydd y brêd yn eich galluogi i wneud llawer mwy o symud hefyd. Unwaith y byddwch wedi cael rhywfaint o brofiad, byddwch yn dechrau teimlo’r gwahaniaeth rhwng llith yn taro chwyn neu greigiau, a beth yw bachiad gwirioneddol. Mae hyn yn ddefnyddiol gan y bydd yna adegau pan fydd pysgodyn rheibus yn ceisio gafael yn eich llith heb fynd ar y bachyn, neu bydd y brathiad yn gynnil (nid yw’r draenogyn dŵr croyw bach, yn arbennig, yn gwneud llawer mwy na phlycio ar y llith) ond os nad ydych chi’n teimlo’r awgrym yna yn y lle cyntaf, rydych chi’n debygol o golli’r cyfle yn gyfan gwbl.
Ar gyfer pysgota â llith ysgafnach fe fyddaf yn defnyddio brêd 15 pwys ac ar gyfer un trymach byddaf yn defnyddio brêd 50 pwys. Efallai fod hynny’n swnio fel gormod ar gyfer pysgod targed sy’n pwyso llai na hanner hynny, ond cofiwch: mae’r brêd fel arfer yn hanner diamedr ei gryfder cyfwerth mewn monoffilament ac yn gallu torri’n hawdd yn erbyn strwythur miniog. Dwi heb weld gostyngiad yn nifer y pysgod dwi’n eu bachu gyda brediau cryfach, ond rwyf wedi gallu adfer llawer mwy o’m llithiau drutaf rhag torri, gan y bydd y bachyn yn plygu allan yn hir cyn i’r llinell dorri gyda brêd trymach fel arfer.
Blaenllinyn – Wrth gastio llithiau trymach ar gyfer penhwyaid fe fydda i’n clymu’r brêd yn uniongyrchol i flaenllinyn weiar gyda’r llith wedi’i glipio i’r pen; fodd bynnag, gyda llithiau ysgafnach, neu wrth bysgota am ddraenog y môr, fe fyddaf yn defnyddio cwlwm Albright i glymu blaenllinyn fflworocarbon i’r brêd (er y gallwch ddefnyddio swifl micro os yw’r cwlwm hwn yn rhy anodd). Mae fflworocarbon yn fwy stiff na monoffilament, felly mae’n cadw’r teimlad sensitif, ond mae hefyd yn anoddach i’w weld yn y dŵr na brêd, sy’n golygu ei fod yn gyflwyniad gwell, ac mae’n gwrthsefyll sgriffiadau’n well, felly’n llai tebygol o dorri os yw’n rhwbio yn erbyn snag miniog. Yna, byddaf naill ai’n clymu’r llith yn uniongyrchol i’r pen gyda chlip, neu’n defnyddio blaenllinyn os oes pysgod rheibus danheddog iawn fel draenogyn y môr yn y dŵr. Bydd hwnnw’n cymryd hyd yn oed y lleiaf o ficro lith, ac, os nad oes gennych chi flaenllinyn, bydd yn hollti trwy eich lein a bydd y bachyn yn sownd yn ei geg. Gallwch brynu deunydd blaenllinyn tenau sydd ddim yn effeithio ar weithrediad y llith rhyw lawer, felly does dim esgus i beidio â’i ddefnyddio.
Bag – Mae gwerth bag da yn cael ei anwybyddu’n aml. Mae’n bosib y byddwch yn cerdded tipyn wrth bysgota, felly mae angen rhywbeth cyfforddus i gario eich llithiau, offer, mat a byrbrydau – a’ch rhwyd drwy system clip hefyd yn ddelfrydol. Does dim rhaid i chi wario llawer ar fag pwrpasol. Rwy’n defnyddio bag sling camera Lowepro sy’n gorwedd ar fy nghlun, sy’n golygu y gallaf newid llith yn hawdd, a bag cefn Aquapac bach gyda fy rhwyd wedi’i chlipio arno gyda carabiner. Mae gofalu am bysgod yn hollbwysig, felly dewch â rhwyd plygu i lawr, yn ddelfrydol gyda rhwyll rwber neu latecs (mae tynnu llithiau o rwyll rhwyd gonfensiynol yn gallu bod yn hunllef), mat cywasgedig sy’n plygu’n hawdd, a’ch offer dadfachu – yn cynnwys gefel trwyn hir a set o dorwyr bachyn, rhag ofn y bydd angen torri’r bachau i dynnu’r llith.
Gêr pen y lein – Cadwch bethau’n syml ar y dechrau. Canolbwyntiwch ar ddau neu dri dull solet a chael llond llaw o lithiau ar gyfer pob un. Mae’n llawer pwysicach eich bod chi’n gwella eich gallu i gastio a gweithio gyda’r llith na chael bocs o lithiau na fyddwch chi byth yn eu defnyddio. Mae gan bawb eu ffefrynnau, a bydd y rhan fwyaf o bysgotwyr â llithiau, waeth faint sydd ganddyn nhw, ddim ond yn castio hanner dwsin o fathau mewn un sesiwn beth bynnag.
Dyma rai o’r mathau mwyaf cyffredin:
Troellwyr a llwyau – dyma le ddechreuodd cymaint ohonom ni – yr hen Mepp rhif 3 gyda smotiau coch neu Toby copr mawr. Maent yn dal i fod yr un mor effeithiol ag erioed, ac yn ddewis gwych ar gyfer llu o rywogaethau rheibus. Mae troellwyr a llwyau yn dod mewn sbectrwm eang o wahanol bwysau, ond llithiau metel sy’n troelli neu’n ysgwyd yn y dŵr ydyn nhw yn y bôn. Fel arfer, byddwch yn eu hadfer drwy droi’r rîl yn gymharol bwyllog, gan gadw cysylltiad â’r llith wrth i chi ei dynnu drwy’r dŵr mewn llinell syth a dyfnder cyfartal.
Abwyd cranc – plygiau gynt, mae gan yr abwyd cranc wefus sy’n ymwthio allan o’r enw ‘llafn plymio’, a fydd yn achosi i’r abwyd i ddeifio yn ddwfn, yn dibynnu ar ei hyd. Os ydych chi’n amrywio’ch adferiad gydag abwyd cranc, byddwch yn sylwi y gallwch reoli’r deifio a dod ag ef drwy’r dŵr gyda symudiad nofio i fyny ac i lawr – defnyddiol iawn ar gyfer ysgogi bachiadau gan bysgod rheibus sy’n hela ledled y golofn ddŵr. Gallwch brynu abwyd cranc sy’n arnofio, suddo, neu sy’n aros yn grog, cyn i chi ddefnyddio’r llafn gyda sawl tro ar handlen y rîl – ond fe allwch gael abwyd heb lafnau o arddull tebyg sy’n nofio ar yr wyneb. Gall y llithiau arwyneb hyn edrych fel hwyaid neu lyffantod neu rai o fath ‘popio’ sy’n neidio ymlaen gyda sŵn ‘clop’ wrth iddynt dorri wyneb y dŵr. Mae’r bachiadau ffyrnig maent yn eu hysgogi o’r dyfnderoedd isod, gan y penhwyad, brithyll, twb y dail neu’r draenog môr, yn gallu bod yn ffrwydrol iawn!
Jigiau, llithiau nofio, gwangod – llithiau rwber meddal neu blastig wedi’u pwysoli y gellir eu gweithio i fyny ar wahanol ddyfnderoedd drwy godi a gostwng blaen eich gwialen, a/neu eu hadfer ar wahanol gyflymder. Arbrofwch gyda gwahanol bwysau, hyd a lliwiau – a rhyfeddwch at ba mor realistig yw golwg rhai ohonynt! Wna i sôn am bennau jigiau wedi’u pwysoli yma hefyd – gellir defnyddio’r bachau wedi’u pwysoli hyn gyda llithiau plastig meddal neu rwber heb eu pwysoli fel gwangod, cynffonnau padl, a ‘grybiau’, yn effeithiol iawn – ac rwyf wedi cael llawer o lwyddiant yn defnyddio mwydod byw (pryfed genwair yn y dŵr croyw neu adrannau bach o rag yn yr halen) neu fwydod ‘izome’ (cynnyrch artiffisial da wedi’i lenwi ag arogl) ar gyfer llawer o’r microrywogaethau sy’n llechu yn ein camlesi, dociau, pyllau ac afonydd. Dull tebyg a phoblogaidd iawn arall (yn enwedig ar gyfer y draenogyn dŵr croyw) yw “drop shotting”. Yn lle clipio neu glymu pen jig i ben eich blaenllinyn, clymwch fachyn plaen heb ei bwysoli i fyny’r blaenllinyn a phwysoli’r pen gyda darn ysgafn. Mae’r bachyn plaen yn cymryd eich llith plastig meddal, gwangen neu fwydyn ac mae’r pwysau castio’n dod o’r plwm ar y pen. Gellir pysgota’r dull hwn yn araf iawn; sy’n galluogi eich llith i ysgwyd, wrth i chi wneud trawiadau i fyny ac i lawr gyda blaen eich gwialen a’i thynnu tuag atoch chi. Mae’n gynhyrchiol iawn ar gyfer pysgota’n agos at snagiau a strwythur, neu ar ddiwrnod oer pan fydd y pysgod yn llai parod i fynd ar ôl llith sy’n symud yn gyflymach.
Pryfed – Peidiwch ag anwybyddu pŵer y pryf. Ers talwm dim ond y pysgotwr brithyll oedd yn defnyddio pryfed fel abwyd ond nid yw hynny’n wir bellach – mae pryfed mawr ar gyfer rhywogaethau fel penhwyaid, draenogyn dŵr croyw, twb y dail, draenogyn y môr a macrell hyd yn oed, ar gael i bob pysgotwr abwyd – ac mae llawer ohonynt yn ddigon trwm i gastio ar bellter byr mewn camlesi a dociau ar dacl abwyd confensiynol, neu fel ‘drop shot’. Gellir eu pysgota trwy ddefnyddio dull ‘bombarda’ hefyd gan ddefnyddio rheolydd neu swigen arnofio. Mae’r symudiad dirgrynol wrth i chi eu tynnu’n ôl drwy’r dŵr yn gallu bod yn farwol!
Dulliau:
Sleifiwch yn dawel i’ch lleoliad. Cofiwch: un o’r llefydd gorau ar gyfer patrolio rhywogaethau rheibus yw’r ymyl ac yn aml fe allwch eu dal wrth eich traed. Canolbwyntiwch ar nodweddion: llwyni bargodol, cyrs, strwythurau suddedig, jetis, cychod – unrhyw beth a allai ddarparu cuddfan i bysgodyn rheibus sydd am ruthro allan i gael ei bryd. Yn y dociau, pysgotwch i lawr ymylon waliau a gatiau llociau, ac yn y môr, chwiliwch am greigiau suddedig, aberoedd afonydd a bariau tywod. Os ydych chi’n pysgota am rywogaethau môr fel draenogyn y môr neu facrell, ystyriwch y llanw – yr adeg gorau yw pysgota’r llanw sy’n codi ddwy awr cyn iddo gyrraedd ei fan uchaf ac am awr neu ddwy wedi hynny. Mae pysgod rheibus yn mynd ar ôl y pysgod sy’n dod i mewn ar y llanw i fwydo ar gregyn gleision a’r mwydod a ddaw i’r golwg o’r newydd.
Amrywiwch ongl a chyflymder yr adferiad. Newidiwch eich llithiau i gael dyfnderoedd a phatrymau gwahanol. Ceisiwch feddwl sut mae eich abwyd yn ymddangos yn y dŵr: a yw’n debyg i bysgodyn ysglyfaethus wedi’i anafu? A yw’n edrych yn ymosodol? Peidiwch â theimlo cywilydd am ei redeg ar hyd yr ymyl am ychydig o dafliadau i gael ‘teimlad’ gwirioneddol am sut y dylai weithio a pha mor gyflym, neu araf, y dylech chi ei dynnu’n ôl. Mae’n hollbwysig eich bod chi’n arafu popeth i lawr ac yn pysgota’r llith allan nes ei fod ymhell o dan flaen eich gwialen. Un o’r camgymeriadau mwyaf mae dechreuwyr yn ei wneud yw tynnu’r llith allan yn rhy gyflym, dim ond i weld pysgodyn rheibus yn troi, a oedd wedi’i ddilyn yr holl ffordd i’r lan!
Yn olaf, mwynhewch eich hun, cadwch eich llygaid ar agor, a throediwch dir newydd. Un o bleserau mawr pysgota â llith yw ei fod yn mynd â chi allan i’r awyr agored, gan gwmpasu milltiroedd o ddŵr na fyddech chi wedi’u gweld fel arall. Yn amlach na pheidio gyda physgota, yr hyn rydyn ni’n ei brofi y tu hwnt i ddal y pysgod sy’n gwneud y diwrnod mor arbennig.
Cymdeithas Pysgota Prysor Pysgota Ieuectid AM DDIM
Darllen mwyTaflwch lein a dihangwch rhag y dwndwr
Dyma’r adeg o’r flwyddyn pan fydd ein meddyliau’n troi at gymryd ychydig o amser i ni’n hunain a gwneud y…
Darllen mwyManteision Pysgota i Iechyd Meddwl a Llesiant Corfforol
Mae pysgota’n weithgaredd hamdden sydd wedi’i fwynhau gan bobl ym mhob cwr o’r byd ers canrifoedd. Nid yn unig mae’n…
Darllen mwy