Rhagolygon Pysgota ar gyfer mis Hydref yng Nghymru
Mae mis Hydref yng Nghymru yn nodi dechrau gwirioneddol yr hydref, gan ddod â thymheredd oerach a newid yn yr amodau pysgota. Gall yr adeg hon o’r flwyddyn fod yn arbennig o gynhyrchiol yng Nghymru, gyda llawer o rywogaethau’n dod yn fwy egnïol wrth iddynt baratoi ar gyfer misoedd y gaeaf.
Pysgota Bras
Penhwyad: Mis Hydref yw’r adeg pan fydd pysgota am benhwyad yn dechrau o ddifrif yng Nghymru. Wrth i dymheredd y dŵr ostwng, o safbwynt lles, fel arfer mae’n ddiogel pysgota am benhwyad unwaith eto gyda phob dull, gan gynnwys abwydo marw. Ym mis Hydref mae penhwyad yn egnïol iawn, gan fwydo’n ymosodol cyn y gaeaf. Mae llynnoedd mwy fel Llyn Syfaddan, Cronfa Ddŵr Trawsfynydd, Llyn Tegid ac Afon Gwy yn lleoliadau gwych ar gyfer pysgota am benhwyad.
Isod: Penhwyad o’r Gwy.

Llynbysg (Carp): Mae pysgota am llynbysg yn parhau’n gryf ym mis Hydref, yn enwedig yn ystod rhan gyntaf y mis. Wrth i’r tywydd oeri, mae’r llynbysg yn parhau i fwydo’n weithredol, gan ei gwneud yn amser gwych i’w targedu cyn iddynt arafu am y gaeaf. Mae pysgodfeydd llynbysg poblogaidd yn cynnwys White Springs, Llyn Y Gors, a’r New Celtic Lakes. Mae syndicetiau llynbysg a dyfroedd clwbiau fel Llyn Cae Tŷ Nant, Ffos Caerffili, Llyn Parc Darran a’r Wharf yng Nghaerdydd i gyd yn pysgota’n dda ym mis Hydref.
Isod: Pysgota ar llyn castell caerffili am Llynbysg (carp)

Penllwyd: Mae mis Hydref yn nodi dechrau’r tymor gorau ar gyfer pysgota penllwyd, a elwir yn aml yn “wraig y nant.” Mae afonydd Cymru fel Afon Dyfrdwy, Afon Gwy, Afon Rhymni ac Afon Irfon ac Ithon yn enwog am eu poblogaethau o benllwyd. Mae penllwyd yn arbennig o weithgar mewn dyfroedd oerach, a gellir eu dal gan ddefnyddio technegau trotio gyda chynrhon neu fwydod fel abwyd.
Draenogiaid: Gall pysgota am ddraenogiaid fod yn wych ym mis Hydref, gyda’r rhywogaeth yn dod yn fwy egnïol wrth i’r tymheredd ostwng. Mae Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu, llyn Morglawdd Bae Caerdydd, Pysgodfa White Springs ynghyd ag amrywiol lynnoedd, pyllau a physgodfeydd ledled Cymru yn cynnig pysgota ddraenogiaid rhagorol. Mae pysgota arnofio gyda mwydod yn ddull effeithiol. Gall targedu ddraenogiaid gyda nyddwyr bach, plastigau meddal neu abwyd byw fod yn arbennig o werth chweil.
Isod: Ddraenogiad afon isaf Taf, wedi’i ddal yng Nghaerdydd.

Pysgota Môr
Draenog y Môr: Mae mis Hydref yn fis gwych ar gyfer pysgota am ddraenogiaid y môr ar hyd arfordir Cymru. Gall pysgotwyr dargedu draenogiaid y môr o lannau, aberoedd, a chychod, gyda Phenrhyn Gŵyr, Sir Benfro, Bae Aberteifi ac Ynys Môn yn fannau poblogaidd. Gall abwyd, abwyd byw, a hyd yn oed pysgota â phlu fod yn effeithiol.
Penfras a Gwyniad y môr: Mae pysgota am benfras fel arfer yn dechrau ym mis Hydref, gyda niferoedd mwy sylweddol yn symud yn agosach at y lan. Mae’r dyfroedd dyfnach oddi ar arfordir Cymru, yn enwedig ym Môr Hafren ac o amgylch Gogledd Cymru, yn gynhyrchiol ar gyfer penfras. Mae pysgota am abwyd gyda lygwn, cranc pilio, neu sgwid yn ddull poblogaidd, yn enwedig yn ystod llanw uchel. Mae Gwyniaid y môr yn dechrau ymddangos mewn niferoedd mwy yn ystod mis Hydref. Gellir dal y rhain o’r lan, pierau a chwch, yn aml yn yr un ardaloedd â phenfras. Mae abwyd llai fel stribedi macrell, lygwn neu sgwid yn gweithio’n dda ar gyfer y rhywogaeth hwyliog hon, sy’n bysgodyn delfrydol i ddechreuwyr ei dargedu.
Isod: Penfras mawr Môr Hafren wedi’i ddal gan y tywysydd Gareth Griffiths.

Pysgota Gêm
Eogiaid: Hydref yw mis olaf y tymor i eogiaid ar rhan fwyaf o afonydd Cymru, gyda Hydref 17eg yn nodi’r dyddiad cau. Mae afonydd fel Gwy, Teifi, a’r Tywi yn gweld eogiaid yn rhedeg y systemau’n weithredol, mae’r rhain yn aml yn bysgod sydd wedi lliwio ac felly yn mwy ymosodol. Gall glaw’r hydref sbarduno cyfleoedd da i bysgota am eogiaid, gyda physgotwyr sy’n dal y drwydded wialen mudol angenrheidiol yn manteisio i’r eithaf ar ddyddiau olaf y tymor. Rhaid rhyddhau pob eog yng Nghymru, gyda defnydd gorfodol o fachau di-barb a chyfyngiadau dull tymhorol ar rai afonydd. Gellir dod o hyd i is-ddeddfau pysgota am eogiaid Cymru llawn yma. Anogir pysgotwyr i gadw eogiaid yn y dŵr at ddibenion lles, os ydynt yn tynnu lluniau.
Brithyll Brown Naturiol: Mae pysgota am frithyll brown yn gorffen ar 30 Medi ar y rhan fwyaf o afonydd Cymru, ond mae nifer sylweddol o lynnoedd a chronfeydd dŵr naturiol yn parhau ar agor tan Hydref 17eg. Er enghraifft, Dyffryn Elan, Cymdeithas Pysgota Aberystwyth a Chymdeithas Bysgota Seiont Gwyrfai a Llyfni. Yn ystod mis Hydref mae’r llynnoedd hyn yn aml yn cynnig y gweithgaredd gorau o’r tymor, gyda physgod yn fwy ymosodol ac yn bwydo’n drwm cyn silio. Rydym yn annog dal a rhyddhau brithyll brown gwyllt yr adeg hon o’r flwyddyn.
Pysgodfeydd Dŵr Lonydd wedi’u Stocio: Yn aml, mae’r tywydd oerach yn dod â chyfnod bwydo i’n pysgodfeydd dŵr llonydd, gyda chronfeydd dŵr mawr yn aml yn mwynhau chwaraeon gwych ym mis Hydref. Gall lleoliadau fel Llyn Clywedog, Brenig a Thrawsfynydd fod yn ardderchog. Gyda dŵr oerach, mae pysgota am abwyd eto’n effeithiol, yn ogystal â physgota â phlu sych a physgota ‘buzzer’. Mae llawer o leoliadau bach ar gyfer brithyll dŵr llonydd yn ailagor ar ôl seibiant haf, gyda stocio yn cael ei wneud yn fwy rheolaidd. Mae’r rhain yn cynnig pysgota gwych drwy gydol yr hydref, gyda llynnoedd fel Dyffryn Dare, Foxhill, Ynys-y-Fro, Garnffrwd, Papermill, Nine Oaks, Ffynhonnau Graiglwyd, Llandgela a Wal-Goch yn cynhyrchu chwaraeon da, i enwi ond ychydig.
Penllwyd: Gyda afonydd brithyll ar gau, mae penllwyd yn cynnig chwaraeon rhagorol i bysgotwyr plu afonydd ym mis Hydref, ar yr afonydd sy’n eu dal. Mae Irfon, Ithon, Gwy Uchaf, Mynwy, Dyfrdwy, Taf, Hafren Uchaf a Rhymni i gyd yn cynnig pysgota penllwyd o’r radd flaenaf, gyda nymffau yn aml yn ddull mwyaf cynhyrchiol.

Trwyddedau a Chaniatâd: Cofiwch, mae angen trwydded gwialen pysgod dŵr croyw gan Asiantaeth yr Amgylchedd / Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer pysgota gêm a physgota bras, yn ogystal â chaniatadau neu docynnau dyddiol.


Cymdeithas Pysgota Prysor Pysgota Ieuectid AM DDIM
Darllen mwy
Taflwch lein a dihangwch rhag y dwndwr
Dyma’r adeg o’r flwyddyn pan fydd ein meddyliau’n troi at gymryd ychydig o amser i ni’n hunain a gwneud y…
Darllen mwy
Byd rhyfeddol pysgota ag abwyd ffug neu lith! Canllaw i ddechreuwyr
Yn y canllaw pysgota hwn, mae’r awdur, y cyflwynydd teledu a’r archwilydd Will Millard yn cymryd golwg ar bysgota â…
Darllen mwy