Cronfa ddŵr 750 erw ar Ynys Môn yw Llyn Alaw. Mae’n Llyn bas ac fe’i hadeiladwyd yn 1966. Mae’n safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig ac yn gyrchfan i adar sy’n gaeafu. Dŵr Cymru oedd yn rheoli’r pysgota, ond mae wedi cau i bysgotwyr dros y blynyddoedd diwethaf. Nid oes gwybodaeth ar gael ar hyn o bryd ynghylch pryd neu os bydd y bysgodfa yn ailagor.