Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i wella'ch profiad.

Archebu Pysgota Ar-Lein - Fishing in Wales
Fly fishing Welsh rivers

Archebu Pysgota Ar-Lein

Archebu Pysgota Ar-Lein

Mae archebu tocynnau pysgota ar-lein yn caniatáu ichi wneud eich cynlluniau pysgota yn gyflym ac yn fwy effeithlon, i gyd-fynd ag amseroedd a chyflyrau teithio – sy’n golygu eich bod chi’n cael treulio mwy o amser gwerthfawr ar y dŵr!

Gallwch chi nawr archebu tocynnau diwrnod pysgota ar-lein ar gyfer llawer o bysgodfeydd dŵr croyw yng Nghymru trwy’r cynllun Pasbort Pysgota helaeth.

Defnyddiwch y map isod i ddod o hyd i le i bysgota. Yna cliciwch drwodd i ‘ddarganfod mwy’ fel eich bod chi ar y rhestr bysgodfeydd lawn. Sgroliwch i lawr y dudalen nes i chi ddod o hyd i far ‘archebu pysgota’. Cliciwch yma i gael mynediad i wefan y Pasbort Pysgota, lle byddwch chi wedyn yn gallu archebu pysgota ar-lein ar gyfer y lleoliad hwnnw (Yn amodol ar delerau ac amodau’r Pasbort Pysgota)

Mae llawer o Glybiau Pysgota yng Nghymru bellach yn defnyddio eu systemau archebu ar-lein eu hunain, neu drwy ddarparwyr eraill fel Clubmate. Os oes gan glwb neu restr bysgodfa far ‘archebu pysgota’, byddwch chi’n gallu clicio drwodd i archebu’n uniongyrchol gyda nhw neu’r darparwr o’u dewis.

Nodyn Atgoffa am Drwydded Pysgota â Gwialen: I fynd i bysgota mewn dŵr croyw yng Nghymru, bydd angen i chi brynu trwydded pysgota â gwialen gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) neu Asiantaeth yr Amgylchedd (AA), yn ogystal â thocyn dydd neu aelodaeth dymhorol ar gyfer y lleoliad. Gallwch brynu eich trwydded pysgota â gwialen yn hawdd YMA.