{"id":21065,"date":"2023-12-20T10:09:00","date_gmt":"2023-12-20T10:09:00","guid":{"rendered":"https:\/\/fishingwales.net\/?p=21065"},"modified":"2023-11-15T10:09:44","modified_gmt":"2023-11-15T10:09:44","slug":"byd-rhyfeddol-pysgota-ag-abwyd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/byd-rhyfeddol-pysgota-ag-abwyd\/","title":{"rendered":"Byd rhyfeddol pysgota ag abwyd ffug neu lith! Canllaw i ddechreuwyr"},"content":{"rendered":"\n<p>Yn y canllaw pysgota hwn, mae\u2019r awdur, y cyflwynydd teledu a\u2019r archwilydd Will Millard yn cymryd golwg ar bysgota \u00e2 llith i ddechreuwyr, dull y gellir ei ddefnyddio mewn d\u0175r ffres a d\u0175r hallt ar gyfer sawl math o rywogaeth.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Does dim llawer o ddulliau pysgota sydd mor gyffrous <\/strong><strong>\u00e2<\/strong><strong> physgota \u00e2 llith<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Rydych yn rilio eich llith yn \u00f4l tuag atoch chi. Troi handlen eich r\u00eel yn araf a gweithio blaen y wialen. Allan yno, rhywle yn y d\u0175r, mae eich llith yn ymdroelli i ddenu \u2013 gan efelychu\u2019n berffaith yr hyn fyddai pysgodyn abwyd wedi\u2019i anafu yn ei wneud. Rydych yn ei dynnu ar ei ffordd, yn oedi, yna\u2019n rhuthro \u2013 a BLAM! Mae wedi\u2019i lorio gan bysgodyn rheibus!<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"768\" height=\"1024\" src=\"https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/lure-fishing-768x1024.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-20701\" srcset=\"https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/lure-fishing-768x1024.jpg 768w, https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/lure-fishing-225x300.jpg 225w, https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/lure-fishing-1152x1536.jpg 1152w, https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/lure-fishing.jpg 1512w\" sizes=\"(max-width: 768px) 100vw, 768px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Os ydych chi\u2019n mwynhau pysgota arwyneb neu bysgota gwaelod gydag abwyd bwydo neu blwm, mae\u2019n debyg y byddwch chi wedi arfer eistedd mewn un lle ac aros am fachiad. Mae pysgota \u00e2 llith yn gofyn i chi fod yn llawer mwy deinamig a symudol: gan newid eich llith i arbrofi gyda gwahanol liwiau, symudiadau a dyfnderoedd; symud yn barhaus ar hyd ymyl y d\u0175r a chastio i lefydd a allai fod yn fagl i bysgodyn rheibus.<\/p>\n\n\n\n<p>Gyda\u2019ch gwialen yn eich llaw, mae\u2019n golygu pan fyddwch chi\u2019n cael bachiad, y bydd yn ymosodiad ffrwydrol fydd yn cyflymu\u2019r galon ac y byddwch yn ei deimlo reit i lawr y wialen ac yn ddwfn i gledr eich llaw \u2013 moment llawn adrenalin sy\u2019n troi unrhyw bysgotwr yn bysgotwr abwyd brwdfrydig am oes.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"361\" src=\"https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/lure2.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-19269\" srcset=\"https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/lure2.jpg 1024w, https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/lure2-300x106.jpg 300w, https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/lure2-768x271.jpg 768w\" sizes=\"(max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p><strong>Ond beth sydd angen ei wybod er mwyn dechrau arni?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae yna amrywiaeth ddryslyd o g\u00ear ar gael i\u2019r pysgotwr abwyd a phe baech chi\u2019n prynu popeth o\u2019r cychwyn gallech wario ffortiwn cyn i chi ddechrau pysgota. Nid yn unig mae angen prynu rhai o\u2019r gwialenni, riliau a rhubanau o\u2019r ansawdd uchaf, mae pris llithiau yn gallu bod yn wirion o ddrud hefyd. Y newyddion da yw bod yna ddigon o g\u00ear gwych ar gael sydd ddim yn mynd i fynd \u00e2 chi i ddyled, ac fel mae\u2019r hen ddywediad yn ei ddweud: mae\u2019r rhan fwyaf o\u2019r tacl drud iawn wedi\u2019i gynllunio i ddal y pysgotwr, ac nid y pysgod. Rhyngoch chi a fi, fe ddefnyddiais i fy ngwialen rad i ddechreuwyr am dros ddegawd a dal degau o bysgod (a deud y gwir, dim ond eleni wnes i roi\u2019r gorau i\u2019w defnyddio!)<\/p>\n\n\n\n<p>I fod yn onest, ar gyfer y rhai sy\u2019n debygol o ddechrau arni, fe fydden i\u2019n argymell edrych ar ddau beth yn unig: gwialen abwyd drymach i gastio llithiau mwy ar gyfer rhywogaethau fel penhwyaid, draenog cernog neu ddraenog y m\u00f4r, a gwialen ysgafn i gastio llithiau ysgafnach ar gyfer rhywogaethau llai fel y draenogyn d\u0175r croyw, twb y dail neu\u2019r brithyll, mewn d\u0175r croyw, neu gob\u00efod, llyfrothod, brithyll Mair neu sgorpion m\u00f4r, mewn d\u0175r hallt.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd llawer o\u2019r hyn rydych chi\u2019n dewis ei gymryd yn dibynnu ar ba dd\u0175r a physgota rheibus sydd ar gael yn lleol i chi \u2013 siaradwch \u00e2\u2019ch siop g\u00ear neu glwb pysgota lleol, a defnyddiwch gronfa ddata eang \u2018Pysgota yng Nghymru\u2019 i gael cyngor ac arweiniad pellach. Yn eich dyfroedd llai, fel camlesi neu ddociau, ble mae\u2019r pysgod yn llai hefyd o bosibl (ac nad oes angen castio ar raddfa fawr) efallai y byddwch am ganolbwyntio ar ochr ysgafnach y gamp; ond, os ydych chi\u2019n pysgota cyrff mawr o dd\u0175r fel llynnoedd, cronfeydd d\u0175r, afonydd llydan neu f\u00f4r agored, bydd gwialen drymach yn rhoi\u2019r nerth ychwanegol i chi ac felly dyna\u2019r ffordd orau ymlaen. Dyw hynny ddim yn golygu y byddwch yn dal pysgod mawr mewn llefydd llai \u2013 neu i\u2019r gwrthwyneb \u2013 yn wir, yn aml iawn, dwi\u2019n mynd \u00e2\u2019r ddwy wialen gyda mi i newid fy nhactegau wrth fynd ymlaen.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Gadewch i ni edrych ar offer a mathau o lithiau:<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Gwialenni \u2013 mae\u2019n well gwybod pa fath o bysgod y byddwch chi\u2019n ceisio eu dal a llithiau o ba bwysau y byddwch chi\u2019n eu taflu cyn prynu gwialen. Ni fydd llithiau ysgafn iawn yn hwyl i\u2019w taflu ar wialen drom a byddwch wedi\u2019ch cyfyngu\u2019n fawr o ran faint allwch chi symud blaen y wialen a gwneud i\u2019r llith blycio a dirgrynu ymlaen os yw blaen eich gwialen yn rhy stiff; ond, os ydych chi\u2019n castio llith trymach ar wialen ysgafnach, mae perygl y gallech dorri blaen y wialen i ffwrdd yn llwyr. Yr hyn rydych chi eisiau yw\u2019r cydbwysedd cywir rhwng llith a gwialen.<\/p>\n\n\n\n<p>O ran y llithiau trymach mae gwialen gyda phwysau castio o 15 i 40 gram yn ddewis da yn gyffredinol, ac ar gyfer llithiau ysgafnach, fe fydden i\u2019n argymell chwilio am bwysau castio o hyd at 15 gram \u2013 bydd y wialen a\u2019r llith yn dangos y pwysau hyn yn glir ar y deunydd pacio a choes y wialen. O ran brandiau, rwy\u2019n defnyddio modelau Savage Gear ar gyfer y ddau fath y dyddiau hyn, ond mae gan yr holl wneuthurwyr gwialenni mawr gitiau cychwyn da, felly edrychwch yn eich siop g\u00ear leol am fargen, neu yn y farchnad ail law.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"768\" src=\"https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/PXL_20230920_123818052-1024x768.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-20696\" srcset=\"https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/PXL_20230920_123818052-1024x768.jpg 1024w, https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/PXL_20230920_123818052-300x225.jpg 300w, https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/PXL_20230920_123818052-768x576.jpg 768w, https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/PXL_20230920_123818052.jpg 1231w\" sizes=\"(max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p><strong>Riliau<\/strong> &#8211; Gallech osod sb\u0175l sb\u00e2r ar r\u00eel y sb\u0175l sefydlog sydd gennych yn barod ar gyfer eich pysgota arnofio ac abwyd bwydo, ond mae\u2019n llawer gwell mynd am r\u00eel droelli bwrpasol gan frand ag enw da. Yn bersonol, rwy\u2019n dal i ddefnyddio riliau sb\u0175l sefydlog ar gyfer pysgota \u00e2 llith, ac yn ffafrio\u2019r brandiau Penn, ond mae llawer o bysgotwyr \u00e2 llith yn defnyddio\u2019r dull lluosog &#8211; sydd yn cynnig rhai manteision o gymharu \u00e2\u2019r sb\u0175l sefydlog. Ond wrth ddechrau, defnyddiwch yr hyn sy\u2019n fwyaf cyfforddus i chi. Ar gyfer y wialen ysgafnach, ystyriwch fynd mor fach \u00e2 dosbarth 1000 neu 2500; ar gyfer yr un drymach, bydd unrhyw beth o 4500 i 6000 yn gweithio\u2019n dda.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"768\" src=\"https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/IMG_1782.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-19279\" srcset=\"https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/IMG_1782.jpg 1024w, https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/IMG_1782-300x225.jpg 300w, https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/IMG_1782-768x576.jpg 768w\" sizes=\"(max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p><strong>Prif lein<\/strong> \u2013 Heb unrhyw amheuaeth, y lein orau ar gyfer pysgota \u00e2 llith yw br\u00ead. Mae\u2019r diffyg hyblygrwydd o\u2019i gymharu \u00e2 monoffilament safonol yn rhoi llawer mwy o sensitifrwydd i chi, sy\u2019n golygu eich bod chi\u2019n gallu teimlo pob cnoc a chyffyrddiad wrth i chi adfer eich llith, a bydd y br\u00ead yn eich galluogi i wneud llawer mwy o symud hefyd. Unwaith y byddwch wedi cael rhywfaint o brofiad, byddwch yn dechrau teimlo\u2019r gwahaniaeth rhwng llith yn taro chwyn neu greigiau, a beth yw bachiad gwirioneddol. Mae hyn yn ddefnyddiol gan y bydd yna adegau pan fydd pysgodyn rheibus yn ceisio gafael yn eich llith heb fynd ar y bachyn, neu bydd y brathiad yn gynnil (nid yw\u2019r draenogyn d\u0175r croyw bach, yn arbennig, yn gwneud llawer mwy na phlycio ar y llith) ond os nad ydych chi\u2019n teimlo\u2019r awgrym yna yn y lle cyntaf, rydych chi\u2019n debygol o golli\u2019r cyfle yn gyfan gwbl.<\/p>\n\n\n\n<p>Ar gyfer pysgota \u00e2 llith ysgafnach fe fyddaf yn defnyddio br\u00ead 15 pwys ac ar gyfer un trymach byddaf yn defnyddio br\u00ead 50 pwys. Efallai fod hynny\u2019n swnio fel gormod ar gyfer pysgod targed sy\u2019n pwyso llai na hanner hynny, ond cofiwch: mae\u2019r br\u00ead fel arfer yn hanner diamedr ei gryfder cyfwerth mewn monoffilament ac yn gallu torri\u2019n hawdd yn erbyn strwythur miniog. Dwi heb weld gostyngiad yn nifer y pysgod dwi\u2019n eu bachu gyda brediau cryfach, ond rwyf wedi gallu adfer llawer mwy o\u2019m llithiau drutaf rhag torri, gan y bydd y bachyn yn plygu allan yn hir cyn i\u2019r llinell dorri gyda br\u00ead trymach fel arfer.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"768\" src=\"https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/PXL_20230920_123910686-1024x768.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-20698\" srcset=\"https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/PXL_20230920_123910686-1024x768.jpg 1024w, https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/PXL_20230920_123910686-300x225.jpg 300w, https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/PXL_20230920_123910686-768x576.jpg 768w, https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/PXL_20230920_123910686.jpg 1231w\" sizes=\"(max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p><strong>Blaenllinyn<\/strong> \u2013 Wrth gastio llithiau trymach ar gyfer penhwyaid fe fydda i\u2019n clymu\u2019r br\u00ead yn uniongyrchol i flaenllinyn weiar gyda\u2019r llith wedi\u2019i glipio i\u2019r pen; fodd bynnag, gyda llithiau ysgafnach, neu wrth bysgota am ddraenog y m\u00f4r, fe fyddaf yn defnyddio cwlwm Albright i glymu blaenllinyn fflworocarbon i\u2019r br\u00ead (er y gallwch ddefnyddio swifl micro os yw\u2019r cwlwm hwn yn rhy anodd). Mae fflworocarbon yn fwy stiff na monoffilament, felly mae\u2019n cadw\u2019r teimlad sensitif, ond mae hefyd yn anoddach i\u2019w weld yn y d\u0175r na br\u00ead, sy\u2019n golygu ei fod yn gyflwyniad gwell, ac mae\u2019n gwrthsefyll sgriffiadau\u2019n well, felly\u2019n llai tebygol o dorri os yw\u2019n rhwbio yn erbyn snag miniog. Yna, byddaf naill ai\u2019n clymu\u2019r llith yn uniongyrchol i\u2019r pen gyda chlip, neu\u2019n defnyddio blaenllinyn os oes pysgod rheibus danheddog iawn fel draenogyn y m\u00f4r yn y d\u0175r. Bydd hwnnw\u2019n cymryd hyd yn oed y lleiaf o ficro lith, ac, os nad oes gennych chi flaenllinyn, bydd yn hollti trwy eich lein a bydd y bachyn yn sownd yn ei geg. Gallwch brynu deunydd blaenllinyn tenau sydd ddim yn effeithio ar weithrediad y llith rhyw lawer, felly does dim esgus i beidio \u00e2\u2019i ddefnyddio.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Bag<\/strong> &#8211; Mae gwerth bag da yn cael ei anwybyddu\u2019n aml. Mae\u2019n bosib y byddwch yn cerdded tipyn wrth bysgota, felly mae angen rhywbeth cyfforddus i gario eich llithiau, offer, mat a byrbrydau &#8211; a\u2019ch rhwyd drwy system clip hefyd yn ddelfrydol. Does dim rhaid i chi wario llawer ar fag pwrpasol. Rwy\u2019n defnyddio bag sling camera Lowepro sy\u2019n gorwedd ar fy nghlun, sy\u2019n golygu y gallaf newid llith yn hawdd, a bag cefn Aquapac bach gyda fy rhwyd wedi\u2019i chlipio arno gyda carabiner. Mae gofalu am bysgod yn hollbwysig, felly dewch \u00e2 rhwyd plygu i lawr, yn ddelfrydol gyda rhwyll rwber neu latecs (mae tynnu llithiau o rwyll rhwyd gonfensiynol yn gallu bod yn hunllef), mat cywasgedig sy\u2019n plygu\u2019n hawdd, a\u2019ch offer dadfachu &#8211; yn cynnwys gefel trwyn hir a set o dorwyr bachyn, rhag ofn y bydd angen torri\u2019r bachau i dynnu\u2019r llith.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"376\" src=\"https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/lure3.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-19271\" srcset=\"https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/lure3.jpg 1024w, https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/lure3-300x110.jpg 300w, https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/lure3-768x282.jpg 768w\" sizes=\"(max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p><strong>G\u00ear pen y lein<\/strong> \u2013 Cadwch bethau\u2019n syml ar y dechrau. Canolbwyntiwch ar ddau neu dri dull solet a chael llond llaw o lithiau ar gyfer pob un. Mae\u2019n llawer pwysicach eich bod chi\u2019n gwella eich gallu i gastio a gweithio gyda\u2019r llith na chael bocs o lithiau na fyddwch chi byth yn eu defnyddio. Mae gan bawb eu ffefrynnau, a bydd y rhan fwyaf o bysgotwyr \u00e2 llithiau, waeth faint sydd ganddyn nhw, ddim ond yn castio hanner dwsin o fathau mewn un sesiwn beth bynnag.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Dyma rai o\u2019r mathau mwyaf cyffredin:<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p><strong>Troellwyr a llwyau<\/strong> \u2013 dyma le ddechreuodd cymaint ohonom ni \u2013 yr hen Mepp rhif 3 gyda smotiau coch neu Toby copr mawr. Maent yn dal i fod yr un mor effeithiol ag erioed, ac yn ddewis gwych ar gyfer llu o rywogaethau rheibus. Mae troellwyr a llwyau yn dod mewn sbectrwm eang o wahanol bwysau, ond llithiau metel sy\u2019n troelli neu\u2019n ysgwyd yn y d\u0175r ydyn nhw yn y b\u00f4n. Fel arfer, byddwch yn eu hadfer drwy droi\u2019r r\u00eel yn gymharol bwyllog, gan gadw cysylltiad \u00e2\u2019r llith wrth i chi ei dynnu drwy\u2019r d\u0175r mewn llinell syth a dyfnder cyfartal.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"767\" src=\"https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/0990110F-E6A1-4C00-8C54-EB24F1B85916.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-19282\" srcset=\"https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/0990110F-E6A1-4C00-8C54-EB24F1B85916.jpg 1024w, https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/0990110F-E6A1-4C00-8C54-EB24F1B85916-300x225.jpg 300w, https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/0990110F-E6A1-4C00-8C54-EB24F1B85916-768x575.jpg 768w\" sizes=\"(max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p><strong>Abwyd cranc<\/strong> &#8211; plygiau gynt, mae gan yr abwyd cranc wefus sy\u2019n ymwthio allan o\u2019r enw \u2018llafn plymio\u2019, a fydd yn achosi i\u2019r abwyd i ddeifio yn ddwfn, yn dibynnu ar ei hyd. Os ydych chi\u2019n amrywio\u2019ch adferiad gydag abwyd cranc, byddwch yn sylwi y gallwch reoli\u2019r deifio a dod ag ef drwy\u2019r d\u0175r gyda symudiad nofio i fyny ac i lawr &#8211; defnyddiol iawn ar gyfer ysgogi bachiadau gan bysgod rheibus sy\u2019n hela ledled y golofn dd\u0175r. Gallwch brynu abwyd cranc sy\u2019n arnofio, suddo, neu sy\u2019n aros yn grog, cyn i chi ddefnyddio\u2019r llafn gyda sawl tro ar handlen y r\u00eel &#8211; ond fe allwch gael abwyd heb lafnau o arddull tebyg sy\u2019n nofio ar yr wyneb. Gall y llithiau arwyneb hyn edrych fel hwyaid neu lyffantod neu rai o fath \u2018popio\u2019 sy\u2019n neidio ymlaen gyda s\u0175n \u2018clop\u2019 wrth iddynt dorri wyneb y d\u0175r. Mae\u2019r bachiadau ffyrnig maent yn eu hysgogi o\u2019r dyfnderoedd isod, gan y penhwyad, brithyll, twb y dail neu\u2019r draenog m\u00f4r, yn gallu bod yn ffrwydrol iawn!<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"768\" src=\"https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/lures-1024x768.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-20690\" srcset=\"https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/lures-1024x768.jpg 1024w, https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/lures-300x225.jpg 300w, https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/lures-768x576.jpg 768w, https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/lures.jpg 1200w\" sizes=\"(max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p><strong>Jigiau, llithiau nofio, gwangod<\/strong> \u2013 llithiau rwber meddal neu blastig wedi\u2019u pwysoli y gellir eu gweithio i fyny ar wahanol ddyfnderoedd drwy godi a gostwng blaen eich gwialen, a\/neu eu hadfer ar wahanol gyflymder. Arbrofwch gyda gwahanol bwysau, hyd a lliwiau &#8211; a rhyfeddwch at ba mor realistig yw golwg rhai ohonynt! Wna i s\u00f4n am bennau jigiau wedi\u2019u pwysoli yma hefyd &#8211; gellir defnyddio\u2019r bachau wedi\u2019u pwysoli hyn gyda llithiau plastig meddal neu rwber heb eu pwysoli fel gwangod, cynffonnau padl, a \u2018grybiau\u2019, yn effeithiol iawn &#8211; ac rwyf wedi cael llawer o lwyddiant yn defnyddio mwydod byw (pryfed genwair yn y d\u0175r croyw neu adrannau bach o rag yn yr halen) neu fwydod \u2018izome\u2019 (cynnyrch artiffisial da wedi\u2019i lenwi ag arogl) ar gyfer llawer o\u2019r microrywogaethau sy\u2019n llechu yn ein camlesi, dociau, pyllau ac afonydd. Dull tebyg a phoblogaidd iawn arall (yn enwedig ar gyfer y draenogyn d\u0175r croyw) yw \u201cdrop shotting\u201d. Yn lle clipio neu glymu pen jig i ben eich blaenllinyn, clymwch fachyn plaen heb ei bwysoli i fyny\u2019r blaenllinyn a phwysoli\u2019r pen gyda darn ysgafn. Mae\u2019r bachyn plaen yn cymryd eich llith plastig meddal, gwangen neu fwydyn ac mae\u2019r pwysau castio\u2019n dod o\u2019r plwm ar y pen. Gellir pysgota\u2019r dull hwn yn araf iawn; sy\u2019n galluogi eich llith i ysgwyd, wrth i chi wneud trawiadau i fyny ac i lawr gyda blaen eich gwialen a\u2019i thynnu tuag atoch chi. Mae\u2019n gynhyrchiol iawn ar gyfer pysgota\u2019n agos at snagiau a strwythur, neu ar ddiwrnod oer pan fydd y pysgod yn llai parod i fynd ar \u00f4l llith sy\u2019n symud yn gyflymach.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Pryfed<\/strong> \u2013 Peidiwch ag anwybyddu p\u0175er y pryf. Ers talwm dim ond y pysgotwr brithyll oedd yn defnyddio pryfed fel abwyd ond nid yw hynny\u2019n wir bellach \u2013 mae pryfed mawr ar gyfer rhywogaethau fel penhwyaid, draenogyn d\u0175r croyw, twb y dail, draenogyn y m\u00f4r a macrell hyd yn oed, ar gael i bob pysgotwr abwyd \u2013 ac mae llawer ohonynt yn ddigon trwm i gastio ar bellter byr mewn camlesi a dociau ar dacl abwyd confensiynol, neu fel \u2018drop shot\u2019. Gellir eu pysgota trwy ddefnyddio dull \u2018bombarda\u2019 hefyd gan ddefnyddio rheolydd neu swigen arnofio. Mae\u2019r symudiad dirgrynol wrth i chi eu tynnu\u2019n \u00f4l drwy\u2019r d\u0175r yn gallu bod yn farwol!<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"767\" src=\"https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/flies.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-20693\" srcset=\"https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/flies.jpg 1024w, https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/flies-300x225.jpg 300w, https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/flies-768x575.jpg 768w\" sizes=\"(max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p><strong>Dulliau:<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Sleifiwch yn dawel i\u2019ch lleoliad. Cofiwch: un o\u2019r llefydd gorau ar gyfer patrolio rhywogaethau rheibus yw\u2019r ymyl ac yn aml fe allwch eu dal wrth eich traed. Canolbwyntiwch ar nodweddion: llwyni bargodol, cyrs, strwythurau suddedig, jetis, cychod &#8211; unrhyw beth a allai ddarparu cuddfan i bysgodyn rheibus sydd am ruthro allan i gael ei bryd. Yn y dociau, pysgotwch i lawr ymylon waliau a gatiau llociau, ac yn y m\u00f4r, chwiliwch am greigiau suddedig, aberoedd afonydd a bariau tywod. Os ydych chi\u2019n pysgota am rywogaethau m\u00f4r fel draenogyn y m\u00f4r neu facrell, ystyriwch y llanw &#8211; yr adeg gorau yw pysgota\u2019r llanw sy\u2019n codi ddwy awr cyn iddo gyrraedd ei fan uchaf ac am awr neu ddwy wedi hynny. Mae pysgod rheibus yn mynd ar \u00f4l y pysgod sy\u2019n dod i mewn ar y llanw i fwydo ar gregyn gleision a\u2019r mwydod a ddaw i\u2019r golwg o\u2019r newydd.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"768\" src=\"https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/IMG_1895.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-19274\" srcset=\"https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/IMG_1895.jpg 1024w, https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/IMG_1895-300x225.jpg 300w, https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/IMG_1895-768x576.jpg 768w\" sizes=\"(max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Amrywiwch ongl a chyflymder yr adferiad. Newidiwch eich llithiau i gael dyfnderoedd a phatrymau gwahanol. Ceisiwch feddwl sut mae eich abwyd yn ymddangos yn y d\u0175r: a yw\u2019n debyg i bysgodyn ysglyfaethus wedi\u2019i anafu? A yw\u2019n edrych yn ymosodol? Peidiwch \u00e2 theimlo cywilydd am ei redeg ar hyd yr ymyl am ychydig o dafliadau i gael \u2018teimlad\u2019 gwirioneddol am sut y dylai weithio a pha mor gyflym, neu araf, y dylech chi ei dynnu\u2019n \u00f4l. Mae\u2019n hollbwysig eich bod chi\u2019n arafu popeth i lawr ac yn pysgota\u2019r llith allan nes ei fod ymhell o dan flaen eich gwialen. Un o\u2019r camgymeriadau mwyaf mae dechreuwyr yn ei wneud yw tynnu\u2019r llith allan yn rhy gyflym, dim ond i weld pysgodyn rheibus yn troi, a oedd wedi\u2019i ddilyn yr holl ffordd i\u2019r lan!<\/p>\n\n\n\n<p>Yn olaf, mwynhewch eich hun, cadwch eich llygaid ar agor, a throediwch dir newydd. Un o bleserau mawr pysgota \u00e2 llith yw ei fod yn mynd \u00e2 chi allan i\u2019r awyr agored, gan gwmpasu milltiroedd o dd\u0175r na fyddech chi wedi\u2019u gweld fel arall. Yn amlach na pheidio gyda physgota, yr hyn rydyn ni\u2019n ei brofi y tu hwnt i ddal y pysgod sy\u2019n gwneud y diwrnod mor arbennig.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"768\" src=\"https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/IMG_4164-1024x768.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-19276\" srcset=\"https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/IMG_4164-1024x768.jpg 1024w, https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/IMG_4164-300x225.jpg 300w, https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/IMG_4164-768x576.jpg 768w, https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2023\/02\/IMG_4164.jpg 1200w\" sizes=\"(max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yn y canllaw pysgota hwn, mae\u2019r awdur, y cyflwynydd teledu a\u2019r archwilydd Will Millard yn cymryd golwg ar bysgota \u00e2 &#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":20703,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[96,97,98],"tags":[],"bqs_media":[94],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v21.8 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Byd rhyfeddol pysgota ag abwyd ffug neu lith! Canllaw i ddechreuwyr - Fishing in Wales<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/byd-rhyfeddol-pysgota-ag-abwyd\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Byd rhyfeddol pysgota ag abwyd ffug neu lith! Canllaw i ddechreuwyr - Fishing in Wales\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Yn y canllaw pysgota hwn, mae\u2019r awdur, y cyflwynydd teledu a\u2019r archwilydd Will Millard yn cymryd golwg ar bysgota \u00e2 ...\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/byd-rhyfeddol-pysgota-ag-abwyd\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Fishing in Wales\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2023-12-20T10:09:00+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2023-11-15T10:09:44+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/lures10.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1250\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"937\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"ceri.thomas@anglingtrust.net\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"ceri.thomas@anglingtrust.net\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"14 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/byd-rhyfeddol-pysgota-ag-abwyd\/\",\"url\":\"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/byd-rhyfeddol-pysgota-ag-abwyd\/\",\"name\":\"Byd rhyfeddol pysgota ag abwyd ffug neu lith! Canllaw i ddechreuwyr - Fishing in Wales\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/fishingwales.net\/#website\"},\"datePublished\":\"2023-12-20T10:09:00+00:00\",\"dateModified\":\"2023-11-15T10:09:44+00:00\",\"author\":{\"@id\":\"https:\/\/fishingwales.net\/#\/schema\/person\/36fc518c8803abaa83fcafdb54e25534\"},\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/byd-rhyfeddol-pysgota-ag-abwyd\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/byd-rhyfeddol-pysgota-ag-abwyd\/\"]}]},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/byd-rhyfeddol-pysgota-ag-abwyd\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Byd rhyfeddol pysgota ag abwyd ffug neu lith! Canllaw i ddechreuwyr\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/fishingwales.net\/#website\",\"url\":\"https:\/\/fishingwales.net\/\",\"name\":\"Fishing in Wales\",\"description\":\"The official website for Welsh angling!\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/fishingwales.net\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":\"required name=search_term_string\"}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/fishingwales.net\/#\/schema\/person\/36fc518c8803abaa83fcafdb54e25534\",\"name\":\"ceri.thomas@anglingtrust.net\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/fishingwales.net\/#\/schema\/person\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/8f2b5fd7da78da2b7f5d3e632d9d7f52?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/8f2b5fd7da78da2b7f5d3e632d9d7f52?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"ceri.thomas@anglingtrust.net\"},\"url\":\"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/author\/ceri-thomasanglingtrust-net\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Byd rhyfeddol pysgota ag abwyd ffug neu lith! Canllaw i ddechreuwyr - Fishing in Wales","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/byd-rhyfeddol-pysgota-ag-abwyd\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Byd rhyfeddol pysgota ag abwyd ffug neu lith! Canllaw i ddechreuwyr - Fishing in Wales","og_description":"Yn y canllaw pysgota hwn, mae\u2019r awdur, y cyflwynydd teledu a\u2019r archwilydd Will Millard yn cymryd golwg ar bysgota \u00e2 ...","og_url":"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/byd-rhyfeddol-pysgota-ag-abwyd\/","og_site_name":"Fishing in Wales","article_published_time":"2023-12-20T10:09:00+00:00","article_modified_time":"2023-11-15T10:09:44+00:00","og_image":[{"width":1250,"height":937,"url":"https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/lures10.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"ceri.thomas@anglingtrust.net","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"ceri.thomas@anglingtrust.net","Est. reading time":"14 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/byd-rhyfeddol-pysgota-ag-abwyd\/","url":"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/byd-rhyfeddol-pysgota-ag-abwyd\/","name":"Byd rhyfeddol pysgota ag abwyd ffug neu lith! Canllaw i ddechreuwyr - Fishing in Wales","isPartOf":{"@id":"https:\/\/fishingwales.net\/#website"},"datePublished":"2023-12-20T10:09:00+00:00","dateModified":"2023-11-15T10:09:44+00:00","author":{"@id":"https:\/\/fishingwales.net\/#\/schema\/person\/36fc518c8803abaa83fcafdb54e25534"},"breadcrumb":{"@id":"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/byd-rhyfeddol-pysgota-ag-abwyd\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/fishingwales.net\/cy\/byd-rhyfeddol-pysgota-ag-abwyd\/"]}]},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/byd-rhyfeddol-pysgota-ag-abwyd\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Byd rhyfeddol pysgota ag abwyd ffug neu lith! Canllaw i ddechreuwyr"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/fishingwales.net\/#website","url":"https:\/\/fishingwales.net\/","name":"Fishing in Wales","description":"The official website for Welsh angling!","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/fishingwales.net\/?s={search_term_string}"},"query-input":"required name=search_term_string"}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/fishingwales.net\/#\/schema\/person\/36fc518c8803abaa83fcafdb54e25534","name":"ceri.thomas@anglingtrust.net","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/fishingwales.net\/#\/schema\/person\/image\/","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/8f2b5fd7da78da2b7f5d3e632d9d7f52?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/8f2b5fd7da78da2b7f5d3e632d9d7f52?s=96&d=mm&r=g","caption":"ceri.thomas@anglingtrust.net"},"url":"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/author\/ceri-thomasanglingtrust-net\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/21065"}],"collection":[{"href":"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=21065"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/21065\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":21069,"href":"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/21065\/revisions\/21069"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/20703"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=21065"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=21065"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=21065"},{"taxonomy":"bqs_media","embeddable":true,"href":"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/bqs_media?post=21065"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}