{"id":20433,"date":"2023-08-22T13:31:31","date_gmt":"2023-08-22T12:31:31","guid":{"rendered":"https:\/\/fishingwales.net\/?p=20433"},"modified":"2023-08-22T13:32:20","modified_gmt":"2023-08-22T12:32:20","slug":"hywel-y-pysgotwr","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/hywel-y-pysgotwr\/","title":{"rendered":"Hywel y pysgotwr enwog yn dweud y dylai GIG Cymru annog pobl i wirioni ar bysgota yn lle rhoi tabledi ar bresgripsiwn"},"content":{"rendered":"\n<p>Dylai meddygon yng Nghymru allu rhoi genweirio ar bresgripsiwn yn lle cyffuriau gwrth-iselder, yn \u00f4l un o bysgotwyr gorau&#8217;r DU.<\/p>\n\n\n\n<p>Daw\u2019r alwad gan gyn-bencampwr pysgota\u2019r byd Hywel Morgan sydd eisiau perswadio GIG Cymru y gall treulio prynhawn ar lan yr afon fod yn well i iechyd meddwl na chymryd tabledi.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd yn curo\u2019r drwm dros gamp pysgota a\u2019i heffaith gadarnhaol ar iechyd meddwl pan fydd yn gyfrifol am yr adran Bysgota yn Ffair G\u0207m Cymru a gynhelir dros ddeuddydd ar Yst\u00e2d y Faenol, ger Bangor, ar benwythnos Medi 9 a 10.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd y sioe, a drefnir ar y cyd \u00e2&#8217;r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Helwriaeth a Bywyd Gwyllt, hefyd yn cynnwys popeth o fwyeill i gadwraeth, saethu a bywyd gwyllt, a disgwylir iddi ddenu 20,000 o bobl i 500 erw godidog yr yst\u00e2d sy&#8217;n edrych dros y Fenai.<\/p>\n\n\n\n<p>Dechreuodd Hywel, sy\u2019n fab i\u2019r pysgotwr chwedlonol Moc Morgan, bysgota pan oedd yn ddwyflwydd oed yng Ngheredigion, ac mae wedi bod yn gapten ar d\u00eem Cymru yn y Gemau Rhyngwladol Cartref deirgwaith, lle mae wedi cipio teitl y Brif Wialen deirgwaith, yn ogystal ag ennill teitlau castio pencampwriaeth y byd, gosod record byd trwy gastio 66 gwialen ar yr un pryd a gwneud ymddangosiadau teledu rheolaidd.<\/p>\n\n\n\n<p>Meddai: \u201cMae manteision therapiwtig pysgota yn enfawr ac yn Lloegr mae sawl awdurdod iechyd bellach yn rhoi cyrsiau pysgota yn lle cyffuriau gwrth-iselder ar bresgripsiwn ar gyfer materion iechyd meddwl.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cMae pobl sy&#8217;n dioddef o iselder yn cael sesiynau pysgota ac mae pob pysgotwr yn gwybod bod y byd yn stopio pan fyddwch chi&#8217;n mynd i bysgota.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cYr unig reswm rydych chi\u2019n mynd \u00e2 ff\u00f4n symudol gyda chi i bysgota yw i dynnu llun o\u2019r pysgodyn rydych wedi\u2019i ddal. Rydych chi&#8217;n anghofio am straen bywyd ac mae&#8217;n ffordd wych o ymlacio.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cMae\u2019n ardderchog bod byrddau iechyd yn Lloegr bellach yn cydnabod hyn ac mae angen i ni weld hyn yn digwydd yma yng Nghymru hefyd.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cMae yna sefydliad dros y ffin o\u2019r enw Tackling Minds ac maen nhw\u2019n gwneud gwaith gwych ac mae wedi bod yn llwyddiannus iawn, iawn wrth helpu pobl ag iselder.\u201d<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"679\" src=\"https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/GWCT-WelshGameFair-MattKidd-117-1024x679.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-20423\" srcset=\"https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/GWCT-WelshGameFair-MattKidd-117-1024x679.jpg 1024w, https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/GWCT-WelshGameFair-MattKidd-117-300x199.jpg 300w, https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/GWCT-WelshGameFair-MattKidd-117-768x509.jpg 768w, https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/GWCT-WelshGameFair-MattKidd-117.jpg 1200w\" sizes=\"(max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Ychwanegodd Hywel, sy\u2019n byw ym Mhontrhydfendigaid, yng Ngheredigion: \u201cRoedd fy nhad bob amser yn arfer dweud nad yw pob awr rydych chi\u2019n pysgota yn cyfrif tuag at eich cylch bywyd felly mae\u2019n awr ychwanegol o fywyd. Rydych chi&#8217;n anghofio popeth pan fyddwch chi&#8217;n pysgota. Mae&#8217;n llesol iawn.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Mae ymchwil a gynhaliwyd gan yr Angling Trust wedi dangos bod 86 y cant o bysgotwyr yn dweud bod pysgota wedi helpu i wella symptomau straen neu gorbryder, a byddai 95 y cant yn argymell pysgota fel ffordd o &nbsp;helpu i reoli iechyd meddwl neu lefelau straen.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae hefyd yn dda i iechyd ein hafonydd, yn \u00f4l Hywel a fydd yn arddangos ei allu i gastio ym Mhentref Pysgota Ffair G\u0207m Cymru sy\u2019n cael ei noddi gan Cyfoeth Naturiol Cymru.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae James Gower, prif weithredwr Stable Events sy\u2019n trefnu\u2019r digwyddiad, ochr yn ochr \u00e2 The Game Fair a The Scottish Game Fair, yn llwyr gefnogi galwad Hywel i bysgota gael ei gydnabod gan GIG Cymru fel triniaeth i wella iechyd meddwl.<\/p>\n\n\n\n<p>Meddai: \u201cCafodd llawer o bobl eu denu i bysgota yn ystod cyfnod clo Covid oherwydd dyma un o\u2019r chwaraeon cyntaf i ail-agor a\u2019ch galluogi chi i fynd allan i\u2019r awyr agored a mwynhau cefn gwlad.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cMae hynny&#8217;n bwysig iawn i iechyd ein hafonydd hefyd gan mai pysgotwyr yw llygaid a chlustiau ein dyfroedd \u2013 nhw sy\u2019n dod i wybod am lygredd yn gyntaf ac yn seinio&#8217;r rhybudd.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cDyna pam mae\u2019n bwysig cael plant i gymryd rhan o gyfnod cynnar oherwydd nhw fydd y rhai fydd yn gofalu am ein hafonydd, llynnoedd a\u2019n nentydd yn y dyfodol.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd hi\u2019n benwythnos prysur yn Ffair G\u00eam Cymru i Hywel sy\u2019n cydlynu ac arwain y gweithgareddau pysgota yn ogystal ag arddangos ei sgiliau castio ac arwain Pencampwriaethau Castio\u2019r DU.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd hynny\u2019n denu cystadleuwyr o safon a fydd yn cynnwys prif bysgotwyr Fair G\u00eam yr Alban ym Mhalas Scone a The Game Fair yn Ragley Hall gyda\u2019r rownd derfynol ddydd Sul yn penderfynu pwy fydd yn cael ei goroni\u2019n Bencampwr Ffeiriau G\u00eam y DU.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019n rhan o raglen ddifyr o weithgareddau dros ddeuddydd ar yr yst\u00e2d enwog uwchben y Fenai lle bu\u2019r Teulu Brenhinol yn aros adeg Arwisgiad y Brenin Charles yn Dywysog Cymru yng Nghaernarfon yn 1969.<\/p>\n\n\n\n<p>Wrth galon y sioe mae\u2019r brif arena a fydd yn llwyfannu rhaglen dreigl o ddigwyddiadau ac arddangosiadau gan Fwyellwyr Clwyd, yr adarydd gwyllt Chris Green, y Dyn Cefn Gwlad o Gernyw, a thimau o g\u0175n sbaniel a ch\u0175n adar yn cymryd&nbsp; rhan yng nghystadleuaeth Ryngwladol y Pedair Gwlad.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd y ffermwr teledu adnabyddus Gareth Wyn Jones yn cynnal bwyty dros dro ar y safle, Cwtch Kitchen, a fydd yn gweini seigiau tymhorol gan gynnwys byrgyrs gwiwerod llwyd tra bydd materion cefn gwlad y dydd yn cael sylw yn y Theatr Sgyrsiau Cefn Gwlad.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae cyfle hefyd i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau gwledig gan gynnwys saethyddiaeth, pysgota, saethu gwn aer, saethu clai a thrin c\u0175n gwn a dysgu sut i oroesi yn y gwyllt gyda&#8217;r meistr byw yn y gwyllt Huw Jones o Ynys Twca.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r digwyddiad hefyd yn ddigwyddiad codi arian pwysig ar gyfer elusen cefn gwlad yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Helwriaeth a Bywyd Gwyllt &#8211; elusen 92 oed sy&#8217;n cynnal ymchwil hanfodol i rywogaethau mwyaf agored i niwed Cymru a digwyddiad manwerthu mawr gyda 150 o stondinau gan gynnwys brandiau dillad ac offer mawr ochr yn ochr \u00e2 manwerthwyr annibynnol bach a chrefftwyr.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Mae&#8217;r digwyddiad ar agor bob dydd rhwng 9am a 5.30pm gyda pharcio am ddim a mynediad am ddim i blant dan wyth oed. Am fwy o wybodaeth am Ffair G\u00eam Cymru ewch i <a href=\"https:\/\/www.welshgamefair.org\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">https:\/\/www.welshgamefair.org<\/a><\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Dylai meddygon yng Nghymru allu rhoi genweirio ar bresgripsiwn yn lle cyffuriau gwrth-iselder, yn \u00f4l un o bysgotwyr gorau&#8217;r DU. &#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":20423,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[97],"tags":[],"bqs_media":[95],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v21.8 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Hywel y pysgotwr enwog yn dweud y dylai GIG Cymru annog pobl i wirioni ar bysgota yn lle rhoi tabledi ar bresgripsiwn - Fishing in Wales<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/hywel-y-pysgotwr\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Hywel y pysgotwr enwog yn dweud y dylai GIG Cymru annog pobl i wirioni ar bysgota yn lle rhoi tabledi ar bresgripsiwn - Fishing in Wales\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Dylai meddygon yng Nghymru allu rhoi genweirio ar bresgripsiwn yn lle cyffuriau gwrth-iselder, yn \u00f4l un o bysgotwyr gorau&#8217;r DU. ...\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/hywel-y-pysgotwr\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Fishing in Wales\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2023-08-22T12:31:31+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2023-08-22T12:32:20+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/GWCT-WelshGameFair-MattKidd-117.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1200\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"796\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"ceri.thomas@anglingtrust.net\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"ceri.thomas@anglingtrust.net\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"5 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/hywel-y-pysgotwr\/\",\"url\":\"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/hywel-y-pysgotwr\/\",\"name\":\"Hywel y pysgotwr enwog yn dweud y dylai GIG Cymru annog pobl i wirioni ar bysgota yn lle rhoi tabledi ar bresgripsiwn - Fishing in Wales\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/fishingwales.net\/#website\"},\"datePublished\":\"2023-08-22T12:31:31+00:00\",\"dateModified\":\"2023-08-22T12:32:20+00:00\",\"author\":{\"@id\":\"https:\/\/fishingwales.net\/#\/schema\/person\/36fc518c8803abaa83fcafdb54e25534\"},\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/hywel-y-pysgotwr\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/hywel-y-pysgotwr\/\"]}]},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/hywel-y-pysgotwr\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Hywel y pysgotwr enwog yn dweud y dylai GIG Cymru annog pobl i wirioni ar bysgota yn lle rhoi tabledi ar bresgripsiwn\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/fishingwales.net\/#website\",\"url\":\"https:\/\/fishingwales.net\/\",\"name\":\"Fishing in Wales\",\"description\":\"The official website for Welsh angling!\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/fishingwales.net\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":\"required name=search_term_string\"}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/fishingwales.net\/#\/schema\/person\/36fc518c8803abaa83fcafdb54e25534\",\"name\":\"ceri.thomas@anglingtrust.net\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/fishingwales.net\/#\/schema\/person\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/8f2b5fd7da78da2b7f5d3e632d9d7f52?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/8f2b5fd7da78da2b7f5d3e632d9d7f52?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"ceri.thomas@anglingtrust.net\"},\"url\":\"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/author\/ceri-thomasanglingtrust-net\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Hywel y pysgotwr enwog yn dweud y dylai GIG Cymru annog pobl i wirioni ar bysgota yn lle rhoi tabledi ar bresgripsiwn - Fishing in Wales","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/hywel-y-pysgotwr\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Hywel y pysgotwr enwog yn dweud y dylai GIG Cymru annog pobl i wirioni ar bysgota yn lle rhoi tabledi ar bresgripsiwn - Fishing in Wales","og_description":"Dylai meddygon yng Nghymru allu rhoi genweirio ar bresgripsiwn yn lle cyffuriau gwrth-iselder, yn \u00f4l un o bysgotwyr gorau&#8217;r DU. ...","og_url":"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/hywel-y-pysgotwr\/","og_site_name":"Fishing in Wales","article_published_time":"2023-08-22T12:31:31+00:00","article_modified_time":"2023-08-22T12:32:20+00:00","og_image":[{"width":1200,"height":796,"url":"https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/GWCT-WelshGameFair-MattKidd-117.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"ceri.thomas@anglingtrust.net","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"ceri.thomas@anglingtrust.net","Est. reading time":"5 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/hywel-y-pysgotwr\/","url":"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/hywel-y-pysgotwr\/","name":"Hywel y pysgotwr enwog yn dweud y dylai GIG Cymru annog pobl i wirioni ar bysgota yn lle rhoi tabledi ar bresgripsiwn - Fishing in Wales","isPartOf":{"@id":"https:\/\/fishingwales.net\/#website"},"datePublished":"2023-08-22T12:31:31+00:00","dateModified":"2023-08-22T12:32:20+00:00","author":{"@id":"https:\/\/fishingwales.net\/#\/schema\/person\/36fc518c8803abaa83fcafdb54e25534"},"breadcrumb":{"@id":"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/hywel-y-pysgotwr\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/fishingwales.net\/cy\/hywel-y-pysgotwr\/"]}]},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/hywel-y-pysgotwr\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Hywel y pysgotwr enwog yn dweud y dylai GIG Cymru annog pobl i wirioni ar bysgota yn lle rhoi tabledi ar bresgripsiwn"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/fishingwales.net\/#website","url":"https:\/\/fishingwales.net\/","name":"Fishing in Wales","description":"The official website for Welsh angling!","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/fishingwales.net\/?s={search_term_string}"},"query-input":"required name=search_term_string"}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/fishingwales.net\/#\/schema\/person\/36fc518c8803abaa83fcafdb54e25534","name":"ceri.thomas@anglingtrust.net","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/fishingwales.net\/#\/schema\/person\/image\/","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/8f2b5fd7da78da2b7f5d3e632d9d7f52?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/8f2b5fd7da78da2b7f5d3e632d9d7f52?s=96&d=mm&r=g","caption":"ceri.thomas@anglingtrust.net"},"url":"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/author\/ceri-thomasanglingtrust-net\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/20433"}],"collection":[{"href":"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=20433"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/20433\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":20436,"href":"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/20433\/revisions\/20436"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/20423"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=20433"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=20433"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=20433"},{"taxonomy":"bqs_media","embeddable":true,"href":"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/bqs_media?post=20433"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}