{"id":16527,"date":"2021-11-17T09:18:02","date_gmt":"2021-11-17T09:18:02","guid":{"rendered":"https:\/\/fishingwales.net\/?p=16527"},"modified":"2021-11-17T09:18:05","modified_gmt":"2021-11-17T09:18:05","slug":"tactegaur-gaeaf-ar-gyfer-dwr-llonydd-yng-ngarnffrwd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/tactegaur-gaeaf-ar-gyfer-dwr-llonydd-yng-ngarnffrwd\/","title":{"rendered":"Tactegau&#8217;r Gaeaf ar Gyfer D\u0175r Llonydd yng Ngarnffrwd"},"content":{"rendered":"\n<p>Efallai nad oes cynifer o bysgodfeydd d\u0175r llonydd o gwmpas y DU ag y bu ar un adeg, ond mae&#8217;r rhai sydd gennym yng Nghymru yn ddyfroedd o safon.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Garnffrwd yng Ngorllewin Cymru yn un o&#8217;r pysgodfeydd hyn, sydd wedi&#8217;i lleoli mewn ardal goediog, hardd ar lethr yn Sir Gaerfyrddin. Mae ymhlith y rhai cyntaf sydd wedi agor ei drysau i enweirwyr, a&#8217;r flwyddyn nesaf bydd ei phen-blwydd 35 blynedd.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"960\" height=\"651\" src=\"https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/10270834_594533407328508_744075496090242648_n.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-16529\" srcset=\"https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/10270834_594533407328508_744075496090242648_n.jpg 960w, https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/10270834_594533407328508_744075496090242648_n-300x203.jpg 300w, https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/10270834_594533407328508_744075496090242648_n-768x521.jpg 768w\" sizes=\"(max-width: 960px) 100vw, 960px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Dros y blynyddoedd, rwyf wedi pysgota ym mhob un o ddyfroedd llonydd Cymru drwy fy ngwaith fel ffotonewyddiadurwr ar gyfer amrywiaeth o gyhoeddiadau cenedlaethol. Gellir dal brithyllod seithliw a brithyllod ym mhobman, o&#8217;r gogledd i&#8217;r de ac o&#8217;r dwyrain i&#8217;r gorllewin, ac mewn rhai dyfroedd ceir hefyd frithyllod euraidd, brithyllod glas a brithyllod teigr. Mae Garnffrwd yn ddim ond un o&#8217;r lleoliadau hyn, ond yn ddiweddar mae ganddo un br\u00eed arall o frithyllod sy&#8217;n rhan o restr o bysgod yr hoffwn i eu dal cyn fy mod i&#8217;n marw, sef y sbartig.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"616\" src=\"https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/BeFunky-collage-1-1024x616.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-16532\" srcset=\"https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/BeFunky-collage-1-1024x616.jpg 1024w, https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/BeFunky-collage-1-300x181.jpg 300w, https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/BeFunky-collage-1-768x462.jpg 768w, https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/BeFunky-collage-1.jpg 1200w\" sizes=\"(max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Ceir y sbartig o ganlyniad i groesi brithyll nant a thorgoch yr Arctig, ac mae Garnffrwd yn un o&#8217;r unig ddyfroedd sy&#8217;n stocio&#8217;r pysgod syfrdanol hyn. Felly ar fore oer, clir ym mis Hydref, teithiais tua&#8217;r gorllewin ar hyd yr M4 yn y gobaith o gysylltu ag un o&#8217;r ychwanegiadau cymharol newydd hyn i&#8217;r olygfa pysgota dyfroedd llonydd.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Y diwrnod<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Nid yw&#8217;n talu ffordd codi&#8217;n gynnar yn ystod y gaeaf, gan nad oes dim i&#8217;w ennill o wneud hynny. Mae tymheredd y d\u0175r fel arfer yn rhy oer i lawer ddigwydd. Nid yw&#8217;r pysgod yn dechrau symud nes bod y d\u0175r yn cynhesu, a hynny ganol bore. Felly&#8217;r peth cyntaf o&#8217;m safbwynt i yw bwyta brecwast da, a dyna&#8217;n union a wnes i yng Ngarnffrwd y bore hwn. Paned a chlonc \u00e2 Jamie, y perchennog, cyn bwyta llond fy mol o frecwast llawn Cymreig gyda bara lawr a chocos, sef saig arbennig Christine a phryd sy&#8217;n rhaid ei brofi.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"576\" src=\"https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/20201010_104628-1024x576.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-16534\" srcset=\"https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/20201010_104628-1024x576.jpg 1024w, https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/20201010_104628-300x169.jpg 300w, https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/20201010_104628-768x432.jpg 768w, https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/20201010_104628.jpg 1200w\" sizes=\"(max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Os cewch chi gyfle, mae bob amser yn werth sgwrsio \u00e2 pherchennog neu reolwr y d\u0175r cyn pysgota oherwydd y gallwch ddysgu llawer iawn am blu, tactegau ac ardaloedd sy&#8217;n pysgota&#8217;n dda. Mae&#8217;n arbed llawer o amser, yn enwedig pan fo&#8217;r dyddiau&#8217;n fyr.<\/p>\n\n\n\n<p>Penderfynais baratoi ddwy wialen \u2013 rwy&#8217;n teimlo&#8217;i bod hi&#8217;n bwysicach gwneud hyn yn y gaeaf nag yw hi unrhyw bryd arall yn ystod y flwyddyn oherwydd y gall esgoriad ddigwydd a gorffen yn sydyn ar yr adeg hon. Mae hyn yn tueddu i ddigwydd tua hanner dydd pan fo&#8217;r tymheredd yn ffafrio unrhyw fath o bryfyn sy&#8217;n debygol o esgor.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae cam cyntaf fy nghynllun yn golygu mynd draw i gornel yr argae, sef un o&#8217;m hoff leoedd ar y llyn, a&#8217;r dyfnaf. Rwy&#8217;n paratoi llinyn canolig, clir, sef deg troedfedd o linyn fflworocarbon \u00e2 straen torri o chwe phwys \u00e2 mursen felynwyrdd \u00e2 phen aur ar ei ddiwedd. Rwy&#8217;n taflu&#8217;r llinyn ymhell i&#8217;r llyn ac yn gadael amser iddo suddo cyn ei dynnu i mewn yn araf \u00e2 symudiad ffigur wyth. Rwy&#8217;n tueddu i bysgota&#8217;n araf dan amodau oer oherwydd nad yw pysgod, gan amlaf, yn hoff o symud yn gyflym pan fo&#8217;r tymheredd yn isel. Rwy&#8217;n taflu&#8217;r llinyn ar ffurf gwyntyll llaw gan chwilio am bysgod mewn arc o&#8217;m mlaen i gan fod hon yn ffordd dda o gyflwyno&#8217;ch pluen o flaen y pysgodyn heb iddo orfod symud yn bell i&#8217;w chymryd.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"497\" src=\"https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/PSX_20200927_122117-1024x497.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-16536\" srcset=\"https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/PSX_20200927_122117-1024x497.jpg 1024w, https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/PSX_20200927_122117-300x146.jpg 300w, https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/PSX_20200927_122117-768x373.jpg 768w, https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/PSX_20200927_122117.jpg 1200w\" sizes=\"(max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Yn ystod yr awr neu ddwy nesaf, rwy&#8217;n cael dwy ergyd fach yn agos i mewn wrth i mi orffen tynnu&#8217;r llinyn i mewn. Felly rwy&#8217;n canolbwyntio ar yr ychydig droedfeddi olaf, cyn oedi a chodi&#8217;r wialen yn araf, gan ei siglo wrth i mi wneud hynny, sy&#8217;n ddull gwych o atynnu pysgodyn sy&#8217;n dilyn. Mae hyn yn arbennig o wir os yw patrwm eich pluen yn cynnwys marab\u0175, oherwydd y mae&#8217;n ei bywiogi ac yn gwneud iddi phylsadu wrth iddi godi tua&#8217;r wyneb. Drwy ddefnyddio&#8217;r dull hwn, nid oes rhaid i mi aros yn hir cyn dal brithyll seithliw hardd o tua thri phwys, sy&#8217;n dyrnu&#8217;r wyneb cyn iddo fwrw&#8217;r bachyn i ffwrdd.<\/p>\n\n\n\n<p>Tua hanner dydd, mae pethau&#8217;n cynhesu, ac, yn \u00f4l y disgwyl, mae ychydig o bysgod yn dechrau ymddangos ar yr wyneb, felly rwy&#8217;n rilio&#8217;r llinyn i mewn ar unwaith a newid drosodd i&#8217;r wialen arall roeddwn i eisoes wedi&#8217;i pharatoi \u00e2 llinyn arnofiol 5 pwysyn gyda dwy bluen sych, sef <em>hopper<\/em> du ar y pen llinyn a <em>shuttlecock<\/em> ar y pwynt. Yn fy mhrofiad i, y ddau batrwm hyn fu&#8217;r cyfuniad gorau wrth bysgota \u00e2 phlu sych, oherwydd nid yn unig y mae&#8217;r <em>hopper<\/em> yn efelychiad da o <em>buzzer <\/em>sych, mae hefyd yn efelychu pryfyn daearol sydd wedi&#8217;i chwythu i wyneb y d\u0175r, tra bo&#8217;r <em>shuttlecock<\/em> CDC yn batrwm gwych ar gyfer chwiler gwybedyn yn yr haenen dd\u0175r sydd ar fin esgor. Ar unwaith, mae pysgod yn dangos diddordeb yn fy <em>hopper<\/em> a chyn hir rwyf wedi&#8217;m cysylltu \u00e2 brithyll spartig o tua thri phwys sy&#8217;n ymladd yn gryf. Ar \u00f4l brwydr fywiog, mae&#8217;n llithro i mewn i fy rhwyd barod. Roeddwn i uwchben fy nigon, a dyna bysgod syfrdanol ydyn nhw, gyda&#8217;u smotiau majenta. Ar \u00f4l tynnu ychydig o luniau ohono, rwy&#8217;n ei ddychwelyd i&#8217;r d\u0175r; mae&#8217;n dda gweld pysgod yn cael eu rhoi&#8217;n \u00f4l yn y gaeaf oherwydd eu bod yn nofio i ffwrdd yn gryf gan eu bod yn adfer yn gyflym mewn d\u0175r oer.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"900\" height=\"899\" src=\"https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/PSX_20201011_132757.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-16539\" srcset=\"https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/PSX_20201011_132757.jpg 900w, https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/PSX_20201011_132757-300x300.jpg 300w, https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/PSX_20201011_132757-150x150.jpg 150w, https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/PSX_20201011_132757-768x767.jpg 768w\" sizes=\"(max-width: 900px) 100vw, 900px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Ar \u00f4l taflu&#8217;r llinyn ychydig mwy o weithiau, mae&#8217;r cyfnod o gymryd y plu yn dod i ben, felly rwy&#8217;n penderfynu symud tua 50 llathen ar hyd y lan oherwydd y gallaf weld ychydig o bysgod yn ymddangos. Oherwydd nad yw&#8217;r pysgod yn fywiog iawn mewn tywydd oer, mae&#8217;n talu ffordd i symud o gwmpas ac i beidio ag aros mewn un man yn rhy hir. Yr adeg hon o&#8217;r flwyddyn, mae angen i chi bysgota digon o dd\u0175r er mwyn dod o hyd i&#8217;r pysgod.<\/p>\n\n\n\n<p>Wrth i mi nes\u00e1u at y llwyfan, gallaf weld bod un pysgodyn yn bwydo&#8217;n gyson yn agos i mewn. Rwy&#8217;n sleifio draw, disgyn i &#8216;mhengliniau a thaflu fy llinyn. Rwy&#8217;n cael codiad bach ar \u00f4l fy <em>hopper<\/em> unwaith eto, ac wrth i mi godi&#8217;r wialen mae&#8217;r pysgodyn yn saethu allan i&#8217;r llyn gyda&#8217;r llinyn yn sgrechian oddi ar fy r\u00eel. Ar \u00f4l iddo geisio nofio o dan y llwyfan ychydig o weithiau, rwy&#8217;n llwyddo i&#8217;w rwydo. Spartig hardd arall, ychydig yn fwy o faint y tro hwn \u2013 rwy&#8217;n amcangyfrif ei fod tua phedwar pwys.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"1024\" src=\"https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/PSX_20201011_213816-e-1024x1024.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-16541\" srcset=\"https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/PSX_20201011_213816-e-1024x1024.jpg 1024w, https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/PSX_20201011_213816-e-300x300.jpg 300w, https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/PSX_20201011_213816-e-150x150.jpg 150w, https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/PSX_20201011_213816-e-768x767.jpg 768w, https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/PSX_20201011_213816-e.jpg 1080w\" sizes=\"(max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Daliais i ddau arall yn hwyrach y diwrnod hwnnw cyn i&#8217;r tymheredd ostwng a chyn i&#8217;r hwyl ddod i ben. Byddwn wedi bod yn fodlon ar ddal un spartig yn unig, ond roedd yn hollol annisgwyl dal pedwar ohonynt, yr oeddent i gyd wedi dod i&#8217;r plu sych.<\/p>\n\n\n\n<p>Rhywbeth arall sy&#8217;n werth s\u00f4n amdano yw&#8217;r ffaith fod brithyllod wrth eu boddau ar ddechrau&#8217;r gaeaf oherwydd eu bod yn tueddu i roi&#8217;r gorau i fwydo yn ystod yr haf, ac felly pan maent yn synhwyro bod y tymheredd yn gostwng maent yn dechrau bwydo er mwyn rhoi pwysau ymlaen ar gyfer misoedd y gaeaf. Er na wnes i eu temtio yn ystod fy ymweliad y tro hwn, mi fyddaf yn dychwelyd cyn hir. Yn fy marn i, mae llawer o hwyl a sbri i&#8217;w gael yn ystod y misoedd oerach o ganlyniad i gyflwyno&#8217;r sbartig, a hynny oherwydd y rhan o&#8217;u geneteg sy&#8217;n deillio o ochr torgoch yr Arctig yn \u00f4l pob tebyg.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Garnffrwd wir yn dd\u0175r ar gyfer dulliau efelychol, a dyma&#8217;r d\u0175r delfrydol ar gyfer y genweirwyr hynny sy&#8217;n mwynhau dull myfyriol a hwyl ar yr wyneb. Ceir yma ddigonedd o borthiant naturiol ac esgoriadau helaeth o bryfed. Tua mis Ebrill, mae&#8217;r lle yma&#8217;n hollol wahanol gyda&#8217;i esgoriadau o nymffod melynwyrdd, ond mae honno&#8217;n stori arall.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"588\" src=\"https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/BeFunky-collage-1024x588.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-16543\" srcset=\"https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/BeFunky-collage-1024x588.jpg 1024w, https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/BeFunky-collage-300x172.jpg 300w, https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/BeFunky-collage-768x441.jpg 768w, https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/BeFunky-collage.jpg 1200w\" sizes=\"(max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p><strong>Tactegau a chynlluniau ar gyfer dyfroedd llonydd<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p><strong>Cynllun 1<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Gwialen #7 deg troedfedd o hyd. Llinyn canolig gyda blaenllinyn deg neu 12 troedfedd o hyd gyda phatrwm atyniadol fel mursen \u00e2 phen aur, <em>catswhisker<\/em> neu benbwl du.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r dull hwn fel arfer yn denu&#8217;r pysgod stoc newydd. Taflwch linyn hir, gadewch iddo suddo am tua deg eiliad cyn ei dynnu&#8217;n \u00f4l yn gyflym neu mewn tyniadau byr. Mae hefyd yn werth newid y cyflymder rydych yn tynnu&#8217;r llinyn yn \u00f4l ac oedi\/ailddechrau er mwyn denu&#8217;r pysgod i gymryd y bluen. Fy hoff ddull yw symudiad ffigur wyth oherwydd eich bod mewn cysylltiad cyson \u00e2&#8217;ch pluen.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Cynllun 2<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Gwialen #5 deg troedfedd o hyd. Llinyn ysgafnach ar gyfer gwaith mwy celfydd oherwydd bod pysgod yn aml yn cymryd pluen mewn ffordd ysgafn, sy&#8217;n golygu bod angen defnyddio dull sensitif ac effro. Plu sych neu <em>buzzers<\/em>. Y ddau brif batrwm rwy&#8217;n troi atynt o ran plu sych yw CDC du a <em>hopper<\/em> du, gan glymu&#8217;r <em>hopper <\/em>ar y pwynt fel arfer. Sicrhewch eich bod yn datseimio&#8217;r blaenllinyn \u2013 rwy&#8217;n defnyddio clai pannwr. O ran nymffod, byddwn yn dewis <em>Hare&#8217;s Ear<\/em> a <em>Diawl Bach<\/em>, a fy nghyngor gorau ar gyfer nymffio yw ei bod yn amhosib tynnu&#8217;r llinyn yn \u00f4l yn ddigon araf, ac, yn ddelfrydol, dylech bysgota gyda gwynt sy&#8217;n dod o&#8217;r ochr oherwydd y bydd y crychau yn y d\u0175r yn eich helpu i barhau eich cyffyrddiad \u00e2&#8217;r llinyn wrth iddo grymu.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Cynllun 3<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Gwialen #5 deg troedfedd o hyd. Dangosydd bwng neu olwg. Nid wy&#8217;n defnyddio blobiau neu fwydod yn bersonol, ond mae&#8217;n wir, ar y diwrnod cywir, eu bod wedi profi i fod yn ddalwyr pysgod. Mae&#8217;n well gennyf ddefnyddio <em>buzzers<\/em>, yn enwedig rhai epocsi du, ac os byddaf yn pysgota \u00e2 dau fachyn, byddaf yn clymu cynrhonyn coch ar y pwynt. Dalir pysgod gwell (bwydwyr naturiol) drwy&#8217;r dull hwn yn aml.<\/p>\n\n\n\n<p>Dolen i bysgodfeydd d\u0175r llonydd yng Nghymru.<br><a href=\"https:\/\/fishingwales.net\/game-fishing\/\">https:\/\/fishingwales.net\/cy\/pysgota-gem\/<\/a><\/p>\n\n\n\n<p><br>Gwrandewch ar bodlediad Ceri ar Garnffrwd yma: <a href=\"https:\/\/castingwithcerijones.com\/castingwithcerijonespodcast\/episode13\">https:\/\/castingwithcerijones.com\/castingwithcerijonespodcast\/episode13<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Efallai nad oes cynifer o bysgodfeydd d\u0175r llonydd o gwmpas y DU ag y bu ar un adeg, ond mae&#8217;r &#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":16546,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[97],"tags":[],"bqs_media":[94],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v21.8 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Tactegau&#039;r Gaeaf ar Gyfer D\u0175r Llonydd yng Ngarnffrwd - Fishing in Wales<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/tactegaur-gaeaf-ar-gyfer-dwr-llonydd-yng-ngarnffrwd\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Tactegau&#039;r Gaeaf ar Gyfer D\u0175r Llonydd yng Ngarnffrwd - Fishing in Wales\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Efallai nad oes cynifer o bysgodfeydd d\u0175r llonydd o gwmpas y DU ag y bu ar un adeg, ond mae&#8217;r ...\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/tactegaur-gaeaf-ar-gyfer-dwr-llonydd-yng-ngarnffrwd\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Fishing in Wales\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2021-11-17T09:18:02+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2021-11-17T09:18:05+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/mont.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1200\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"993\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"ceri.thomas@anglingtrust.net\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"ceri.thomas@anglingtrust.net\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"9 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/tactegaur-gaeaf-ar-gyfer-dwr-llonydd-yng-ngarnffrwd\/\",\"url\":\"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/tactegaur-gaeaf-ar-gyfer-dwr-llonydd-yng-ngarnffrwd\/\",\"name\":\"Tactegau'r Gaeaf ar Gyfer D\u0175r Llonydd yng Ngarnffrwd - Fishing in Wales\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/fishingwales.net\/#website\"},\"datePublished\":\"2021-11-17T09:18:02+00:00\",\"dateModified\":\"2021-11-17T09:18:05+00:00\",\"author\":{\"@id\":\"https:\/\/fishingwales.net\/#\/schema\/person\/36fc518c8803abaa83fcafdb54e25534\"},\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/tactegaur-gaeaf-ar-gyfer-dwr-llonydd-yng-ngarnffrwd\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/tactegaur-gaeaf-ar-gyfer-dwr-llonydd-yng-ngarnffrwd\/\"]}]},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/tactegaur-gaeaf-ar-gyfer-dwr-llonydd-yng-ngarnffrwd\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Tactegau&#8217;r Gaeaf ar Gyfer D\u0175r Llonydd yng Ngarnffrwd\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/fishingwales.net\/#website\",\"url\":\"https:\/\/fishingwales.net\/\",\"name\":\"Fishing in Wales\",\"description\":\"The official website for Welsh angling!\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/fishingwales.net\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":\"required name=search_term_string\"}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/fishingwales.net\/#\/schema\/person\/36fc518c8803abaa83fcafdb54e25534\",\"name\":\"ceri.thomas@anglingtrust.net\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/fishingwales.net\/#\/schema\/person\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/8f2b5fd7da78da2b7f5d3e632d9d7f52?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/8f2b5fd7da78da2b7f5d3e632d9d7f52?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"ceri.thomas@anglingtrust.net\"},\"url\":\"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/author\/ceri-thomasanglingtrust-net\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Tactegau'r Gaeaf ar Gyfer D\u0175r Llonydd yng Ngarnffrwd - Fishing in Wales","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/tactegaur-gaeaf-ar-gyfer-dwr-llonydd-yng-ngarnffrwd\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Tactegau'r Gaeaf ar Gyfer D\u0175r Llonydd yng Ngarnffrwd - Fishing in Wales","og_description":"Efallai nad oes cynifer o bysgodfeydd d\u0175r llonydd o gwmpas y DU ag y bu ar un adeg, ond mae&#8217;r ...","og_url":"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/tactegaur-gaeaf-ar-gyfer-dwr-llonydd-yng-ngarnffrwd\/","og_site_name":"Fishing in Wales","article_published_time":"2021-11-17T09:18:02+00:00","article_modified_time":"2021-11-17T09:18:05+00:00","og_image":[{"width":1200,"height":993,"url":"https:\/\/fishingwales.net\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/mont.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"ceri.thomas@anglingtrust.net","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"ceri.thomas@anglingtrust.net","Est. reading time":"9 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/tactegaur-gaeaf-ar-gyfer-dwr-llonydd-yng-ngarnffrwd\/","url":"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/tactegaur-gaeaf-ar-gyfer-dwr-llonydd-yng-ngarnffrwd\/","name":"Tactegau'r Gaeaf ar Gyfer D\u0175r Llonydd yng Ngarnffrwd - Fishing in Wales","isPartOf":{"@id":"https:\/\/fishingwales.net\/#website"},"datePublished":"2021-11-17T09:18:02+00:00","dateModified":"2021-11-17T09:18:05+00:00","author":{"@id":"https:\/\/fishingwales.net\/#\/schema\/person\/36fc518c8803abaa83fcafdb54e25534"},"breadcrumb":{"@id":"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/tactegaur-gaeaf-ar-gyfer-dwr-llonydd-yng-ngarnffrwd\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/fishingwales.net\/cy\/tactegaur-gaeaf-ar-gyfer-dwr-llonydd-yng-ngarnffrwd\/"]}]},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/tactegaur-gaeaf-ar-gyfer-dwr-llonydd-yng-ngarnffrwd\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Tactegau&#8217;r Gaeaf ar Gyfer D\u0175r Llonydd yng Ngarnffrwd"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/fishingwales.net\/#website","url":"https:\/\/fishingwales.net\/","name":"Fishing in Wales","description":"The official website for Welsh angling!","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/fishingwales.net\/?s={search_term_string}"},"query-input":"required name=search_term_string"}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/fishingwales.net\/#\/schema\/person\/36fc518c8803abaa83fcafdb54e25534","name":"ceri.thomas@anglingtrust.net","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/fishingwales.net\/#\/schema\/person\/image\/","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/8f2b5fd7da78da2b7f5d3e632d9d7f52?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/8f2b5fd7da78da2b7f5d3e632d9d7f52?s=96&d=mm&r=g","caption":"ceri.thomas@anglingtrust.net"},"url":"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/author\/ceri-thomasanglingtrust-net\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/16527"}],"collection":[{"href":"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=16527"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/16527\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16545,"href":"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/16527\/revisions\/16545"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/16546"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=16527"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=16527"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=16527"},{"taxonomy":"bqs_media","embeddable":true,"href":"https:\/\/fishingwales.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/bqs_media?post=16527"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}